Mater - cyfarfodydd
REVOCATION OF A HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLE DRIVERS LICENCE - DRIVER NO. 047224
Cyfarfod: 27/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 4)
DIDDYMU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047224
Ystyried
adroddiad cyfrinachol (i’w ddosbarthu yn y cyfarfod) ynghylch dirymu trwydded
gyrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047224.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD diddymu
Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 047224 er
diogelwch y cyhoedd.
Cofnodion:
Cylchredwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn y cyfarfod yn argymell y dylid
diddymu’r drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a roddwyd i
Yrrwr Rhif 047224 ar unwaith er lles diogelwch y cyhoedd. Cyflwynwyd ffeithiau’r achos fel a ganlyn –
(i)
derbyniwyd
gwybodaeth ynglŷn â’r ffaith fod Gyrrwr Rhif 047224 wedi’i arestio yn
dilyn cyhuddiadau yn ymwneud â sylweddau dan reolaeth a chamymddwyn rhywiol
difrifol yn ymwneud â pherson ifanc;
(ii)
derbyniwyd
manylion yn ddiweddarach yn ymwneud â’r cyhuddiadau gan Heddlu Gogledd Cymru a
oedd yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau, ac
(iii)
Roedd
Gyrrwr Rhif 047224 wedi’i wahodd i ddod i gyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded ac i ateb cwestiynau aelodau ar hynny.
Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr adroddiad a chadarnhaodd nad oedd y Gyrrwr yn
bresennol er gwaethaf derbyn gwahoddiad i fod yn bresennol. Mewn ymateb i gwestiynau, clywodd aelodau na
ellid datgelu unrhyw fanylion pellach yn sgil ymchwiliad yr Heddlu i’r
cyhuddiadau, a oedd yn parhau. Rhoddodd
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd safbwynt cyfreithiol ar y
sefyllfa gan gynnwys y sail dros wahardd a diddymu’r drwydded. Wedi trafodaeth –
PENDERFYNWYD y dylid diddymu’r Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a
Cherbyd Hurio Preifat a roddwyd i’r Gyrrwr Rhif 047224 ar sail diogelwch y
cyhoedd.
Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i ffeithiau’r achos a mynegwyd pryder yn ymwneud
a natur ddifrifol y cyhuddiadau a’r ffaith fod yr Heddlu yn bwrw ymlaen â’u
hymchwiliad. Er mwyn cynnal diogelwch y
cyhoedd, penderfynodd yr aelodau ddiddymu’r drwydded ar unwaith.