Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF LOCAL DEVELOPMENT STEERING GROUP
Cyfarfod: 25/06/2013 - Cabinet (Eitem 14)
14 ADOLYGU GRŴP LLYWIO’R CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PDF 103 KB
Ystyried
adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) sy’n
cynnwys cynigion i newid aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu
Lleol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams
yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n amlinellu’r cynigion i
ddiwygio aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol. Cytunwyd y dylai’r Grŵp Llywio newydd
ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd i symud y Cynllun Datblygu Lleol yn ei flaen
trwy’r broses fabwysiadu ffurfiol ac i ganolbwyntio ar weithredu strategaeth a
pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.
Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl ac ar yr Aelodaeth, a bu i’r grŵp
gyfarfod y llynedd. Fodd bynnag,
cydnabuwyd y bydd yn rhaid adolygu’r aelodaeth yn dilyn etholiadau mis Mai 2012
a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol.
Yn dilyn
mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, mae’n bwysig bod Grŵp diwygiedig yn
cael ei ffurfio er mwyn darparu arweiniad gwleidyddol ar ddatblygu cyfres o
Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Ychwanegol, briffiau datblygu a chynlluniau
isadeiledd i hwyluso gweithredu'r Cynllun Datblygu Gwledig. Prif swyddogaeth Grŵp Llywio’r Cynllun
Datblygu Lleol yw cefnogi darpariaeth a monitro parhaus ac adolygu’r Cynllun Datblygu
Lleol, ynghyd â chefnogi gweithredu Strategaeth y Cynllun. Byddai gan y
Grŵp rôl anweithredol ond byddai’n adrodd yn ôl ac yn gwneud argymhellion
i’r Cabinet a’r Cyngor yn ôl yr angen.
Mae’r Cylch
Gorchwyl diwygiedig (Atodiad 1) yn nodi’r trefniadau aelodaeth arfaethedig.
Bydd nifer yr aelodau yn aros yr un fath (sef 12) ond ceisir cael cydbwysedd
gwleidyddol a daearyddol hyd y gellir.
Bydd pob Grŵp Aelodau Ardal yn enwebu 2 Aelod i gynrychioli eu hardal.
Bydd y Cynllun Datblygu
Lleol yn chwarae rhan uniongyrchol o ran cyflawni blaenoriaethau ‘Datblygu’r
Economi Lleol’ a ‘Sicrhau Mynediad at Dai o Ansawdd' trwy'r polisïau a'r
cynigion ynddo. Prif swyddogaeth y Grŵp Llywio fydd goruchwylio cyflawni’r
Cynllun Datblygu Lleol, gan alluogi'r ddarpariaeth o dai, cyflogaeth,
cyfleusterau cymunedol a diogelu’r amgylchedd trwy’r Sir. Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb
wedi ei gynnwys yn Atodiad 2.
Yn ystod y drafodaeth i ddilyn bu i’r Aelodau cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl
diwygiedig ac aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol, fel y nodir
yn Atodiad 1, ac yn amodol ar ddileu'r cyfeiriad at falans gwleidyddol.
Cytunwyd hefyd anfon cais at Gadeiryddion Grwpiau Aelodau Ardal yn gofyn am
enwebu dau berson ar gyfer y Grŵp Llywio. Dylid derbyn yr enwebiadau erbyn
wythnos gyntaf mis Gorffennaf 2013. (AL i weithredu)
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn:-
(a)
cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ac
aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol, fel y nodir yn Atodiad 1,
ac yn amodol ar ddileu'r cyfeiriad at falans gwleidyddol; ac yn
(b)
cytuno i anfon cais at Gadeiryddion
Grwpiau Aelodau Ardal yn gofyn am enwebu dau berson ar gyfer y Grŵp Llywio
erbyn wythnos gyntaf mis Gorffennaf 2013.