Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 044473

Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 12)

12 ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat Ymgeisydd Rhif  044473.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)     ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn ystod y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr fynychu’r cyfarfod nesaf i gyflwyno ei achos, ac

 

(b)     anfon llythyr at Yrrwr Rhif 044473 yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad uchod, a gofyn iddo fynychu’r cyfarfod nesaf a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau Hacni a cherbydau Hurio Preifat;

 

(ii)          pryderon yn cael eu codi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad gyrrwr trwyddedig ar sawl achlysur gwahanol (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Nid oedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod er iddo gael gwahoddiad i fod yn bresennol.  Yn absenoldeb esboniad gan y gyrrwr ynglŷn â’i ddiffyg presenoldeb, penderfynodd y Pwyllgor fwrw ati yn ei absenoldeb.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr adroddiad a rhoddodd grynodeb am ffeithiau’r achos.  Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi cwestiynau ac eglurodd y swyddogion gysylltiad y gyrrwr â’r busnes a’r tacsi y cyfeiriwyd atynt yn y digwyddiadau ac ymddygiad y gyrrwr yn ystod y digwyddiadau dan sylw. Cafwyd eglurhad, yn ystod y weithred tacsi aml asiantaeth yn Chwefror 2013, roedd cerbydau trwyddedig wedi’u harolygu’n gyffredinol a phrofwyd cerbydau eraill hefyd.  Roedd swyddogion yn bryderus ynghylch methiant y Gyrrwr i ymgysylltu â nhw a swyddogion eraill, yr agwedd a ddangosodd a’r modd yr anwybyddodd awdurdod.  Amlygodd Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd bod Swyddogion Gorfodaeth â rôl heriol ac anodd ac wedi cynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda Thrwyddedigion yn bennaf, ac ni fyddai materion yn dod gerbron y pwyllgor oni bai eu bod yn sylweddol.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

PHENDERFYNWYD

 

(a)       gohirio ystyried addasrwydd gyrrwr rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i ddarparu cyfle pellach i’r gyrrwr fod yn bresennol a chyflwyno ei achos

 

(b)       anfon llythyr at yrrwr rhif 044473 yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad uchod y pwyllgor, gan ofyn iddo fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a phwysleisio difrifoldeb y mater iddo. 

 

Wedi ystyried y dystiolaeth, fe wnaeth y pwyllgor fynegi pryderon difrifol ynghylch ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn ac fe wnaethant ystyried eu pwerau yn nhermau gwahardd a diddymu. Yn absenoldeb y gyrrwr a chlywed ei ochr ef fodd bynnag, cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi cyfle pellach i’r Gyrrwr fod yn bresennol i gyflwyno ei achos i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gwneud penderfyniad.  O ganlyniad penderfynwyd gohirio ystyried addasrwydd y gyrrwr tan gyfarfod nesaf y pwyllgor a’i wahodd i fod yn bresennol, gan roi gwybod iddo am benderfyniad y pwyllgor a difrifoldeb y mater.