Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 044473
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 12)
12 ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau adolygu trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat
Ymgeisydd Rhif 044473.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (12/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (12/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (12/4)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (12/5)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) ystyried addasrwydd Gyrrwr
Rhif 044473 i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn
ystod y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr fynychu’r cyfarfod nesaf i
gyflwyno ei achos, ac
(b) anfon llythyr at Yrrwr Rhif
044473 yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad uchod, a gofyn iddo fynychu’r cyfarfod
nesaf a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud ag –
(i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i
ddal trwydded i yrru cerbydau Hacni a cherbydau Hurio Preifat;
(ii)
pryderon yn cael eu codi gan
Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad gyrrwr trwyddedig ar
sawl achlysur gwahanol (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion
wedi’u hatodi i’r adroddiad);
(iii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny
Nid oedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod er iddo gael gwahoddiad i fod yn bresennol. Yn absenoldeb esboniad gan y gyrrwr
ynglŷn â’i ddiffyg presenoldeb, penderfynodd y Pwyllgor fwrw ati yn ei
absenoldeb.
Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (HB) yr
adroddiad a rhoddodd grynodeb am ffeithiau’r achos. Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi cwestiynau
ac eglurodd y swyddogion gysylltiad y gyrrwr â’r busnes a’r tacsi y cyfeiriwyd
atynt yn y digwyddiadau ac ymddygiad y gyrrwr yn ystod y digwyddiadau dan sylw.
Cafwyd eglurhad, yn ystod y weithred tacsi aml asiantaeth yn Chwefror 2013,
roedd cerbydau trwyddedig wedi’u harolygu’n gyffredinol a phrofwyd cerbydau
eraill hefyd. Roedd swyddogion yn
bryderus ynghylch methiant y Gyrrwr i ymgysylltu â nhw a swyddogion eraill, yr
agwedd a ddangosodd a’r modd yr anwybyddodd awdurdod. Amlygodd Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd bod
Swyddogion Gorfodaeth â rôl heriol ac anodd ac wedi cynnal cysylltiadau
cadarnhaol gyda Thrwyddedigion yn bennaf, ac ni fyddai materion yn dod gerbron
y pwyllgor oni bai eu bod yn sylweddol.
Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a –
PHENDERFYNWYD
(a) gohirio ystyried addasrwydd
gyrrwr rhif 044473 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i ddarparu cyfle pellach i’r gyrrwr fod
yn bresennol a chyflwyno ei achos
(b) anfon llythyr at yrrwr rhif
044473 yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad uchod y pwyllgor, gan ofyn iddo fod
yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a phwysleisio difrifoldeb y mater
iddo.
Wedi ystyried y dystiolaeth, fe wnaeth
y pwyllgor fynegi pryderon difrifol ynghylch
ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn ac fe wnaethant ystyried eu pwerau yn
nhermau gwahardd a diddymu. Yn absenoldeb y gyrrwr a chlywed ei ochr ef fodd
bynnag, cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi cyfle pellach i’r Gyrrwr fod yn
bresennol i gyflwyno ei achos i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gwneud
penderfyniad. O ganlyniad penderfynwyd
gohirio ystyried addasrwydd y gyrrwr tan gyfarfod nesaf y pwyllgor a’i wahodd i
fod yn bresennol, gan roi gwybod iddo am benderfyniad y pwyllgor a difrifoldeb
y mater.