Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 047331

Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)

10 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047331

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047331.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047331 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047331 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1997 tan 2010 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod, troseddau gyrru a thraffig;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd.

Fe anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan ddisgrifio ei gefndir a’i amgylchiadau personol pan gyflawnwyd y troseddau.  Roedd yn awyddus i’r aelodau ddeall bod ei agwedd wedi newid ers iddo symud i’r ardal rhai blynyddoedd yn ôl gan ddod yn oedolyn cyfrifol mewn cyflogaeth gydag ymrwymiadau teuluol.  Esboniodd bod ei gyflogaeth bresennol yn dymhorol ac roedd yn dymuno dod yn yrrwr tacsi i gynnal ei hun a’i deulu.  Holodd yr aelodau'r Ymgeisydd ynghylch ei euogfarnau, yn enwedig yn sgil cosbau sylweddol a gafodd a gwaharddiadau mynych rhag gyrru, ac roeddent eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.  Manylodd yr Ymgeisydd ynghylch digwyddiadau penodol wrth ymateb i gwestiynau aelodau, a sicrhaodd y pwyllgor ei fod yn yfed alcohol mewn digwyddiadau cymdeithasol fel priodasau yn unig.  Wrth roi ei ddatganiad terfynol, rhoddodd sicrwydd i aelodau ei fod yn gwerthfawrogi ei drwydded yrru ac roedd wedi newid mewn cymeriad.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD gwrthod cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047331.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Fe ystyriodd yr aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a’r ymateb a roddwyd gan yr Ymgeisydd i gwestiynau.  Er bod caniatáu’r cais yn unol â chanllawiau polisi unigol, prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac yn sgil euogfarnau cyson a mynych yn ymwneud yn benodol â throseddau moduro gan gynnwys gyrru’n beryglus; gyrru heb yswiriant, a gyda gormod o alcohol, nid oedd aelodau’n fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn abl ac addas i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Yn unol â hynny penderfynwyd gwrthod y cais.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.