Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 047331
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)
10 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047331
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047331.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047331 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –
(i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif 047331 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag
euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;
(iii)
darparwyd crynodeb o euogfarnau
a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1997 tan
2010 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod, troseddau gyrru a
thraffig;
(iv)
polisi cyfredol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a
(v)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn
dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei
ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn
sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd.
Fe
anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan ddisgrifio ei gefndir
a’i amgylchiadau personol pan gyflawnwyd y troseddau. Roedd yn awyddus i’r aelodau ddeall bod ei
agwedd wedi newid ers iddo symud i’r ardal rhai blynyddoedd yn ôl gan ddod yn
oedolyn cyfrifol mewn cyflogaeth gydag ymrwymiadau teuluol. Esboniodd bod ei gyflogaeth bresennol yn
dymhorol ac roedd yn dymuno dod yn yrrwr tacsi i gynnal ei hun a’i deulu. Holodd yr aelodau'r Ymgeisydd ynghylch ei
euogfarnau, yn enwedig yn sgil cosbau sylweddol a gafodd a gwaharddiadau mynych
rhag gyrru, ac roeddent eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. Manylodd yr Ymgeisydd ynghylch
digwyddiadau penodol wrth ymateb i gwestiynau aelodau, a sicrhaodd y pwyllgor
ei fod yn yfed alcohol mewn digwyddiadau cymdeithasol fel priodasau yn
unig. Wrth roi ei ddatganiad terfynol,
rhoddodd sicrwydd i aelodau ei fod yn gwerthfawrogi ei drwydded yrru ac roedd
wedi newid mewn cymeriad.
Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a –
PHENDERFYNWYD gwrthod
cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 047331.
Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn –
Fe ystyriodd
yr aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a’r ymateb a roddwyd gan yr
Ymgeisydd i gwestiynau. Er bod
caniatáu’r cais yn unol â chanllawiau polisi unigol, prif ystyriaeth y pwyllgor
oedd diogelwch y cyhoedd ac yn sgil euogfarnau cyson a mynych yn ymwneud yn
benodol â throseddau moduro gan gynnwys gyrru’n beryglus; gyrru heb yswiriant,
a gyda gormod o alcohol, nid oedd aelodau’n fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn
abl ac addas i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Yn unol â hynny penderfynwyd gwrthod y cais.
Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad
a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys
Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.