Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 047324

Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)

8 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047324

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047324.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047324 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047324 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1981 tan 2007 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â diod/cyffuriau, anwedduster ac anonestrwydd;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o ystyried nifer a natur yr euogfarnau.

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor a siaradodd am ei awydd i ddod yn yrrwr tacsi fel dewis amgen i’w gyflogaeth gyfredol a’r gofynion corfforol. Eglurodd amgylchiadau’r troseddau a ddatgelwyd gan y gwiriad cofnodion troseddol hefyd. Fe wnaeth yr aelodau gwestiynu’r Ymgeisydd ymhellach ar ei fersiynau ef o ddigwyddiadau a’i atgofion o’r digwyddiadau. Cwestiynwyd yr Ymgeisydd hefyd ynghylch problemau iechyd mwy diweddar yn ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol yn sgil ei euogfarnau a’i dystysgrif feddygol.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol mynegodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am ei gamau blaenorol ac ategodd nad oedd ganddo broblem gydag alcohol.  Ystyriodd ei fod yn dda gyda’r cyhoedd a darparodd esiamplau yn ei gyflogaeth bresennol.  Darparodd yr Ymgeisydd eirda cymeriad hefyd gan ei gyflogwr cyfredol a ddarllenwyd i’r pwyllgor cyn y trafodaethau.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD gwrthod cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047324.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Tra bod y cais o fewn canllawiau’r polisi, dyletswydd hollbwysig y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd.  Wedi ystyried ffeithiau’r achos a’r atebion a roddwyd mewn eglurhad gan yr Ymgeisydd, roedd gan y pwyllgor bryderon penodol mewn perthynas â’r euogfarn yn ymwneud ag alcohol, dibyniaeth ar alcohol fel y trafodwyd a’r drosedd anwedduster.  O ganlyniad nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn abl ac addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd nad oedd y penderfyniad yn ei atal rhag gwneud cais yn y dyfodol.  Fe’i argymhellwyd hefyd am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Arwel Roberts ran yn y drafodaeth na phleidleisio dros y mater hwn gan nad oedd wedi bod yn bresennol drwy gydol yr holl achos]