Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 047324
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)
8 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 047324
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047324.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod cais rhif 047324 am drwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –
(i)
chais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif 047324 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag
euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;
(iii)
darparwyd crynodeb o euogfarnau
a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1981 tan
2007 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â diod/cyffuriau, anwedduster ac
anonestrwydd;
(iv)
polisi cyfredol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a
(v)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn
dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Rhoddodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei
ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o
ystyried nifer a natur yr euogfarnau.
Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor a siaradodd am ei awydd
i ddod yn yrrwr tacsi fel dewis amgen i’w gyflogaeth gyfredol a’r gofynion
corfforol. Eglurodd amgylchiadau’r troseddau a ddatgelwyd gan y gwiriad
cofnodion troseddol hefyd. Fe wnaeth yr aelodau gwestiynu’r Ymgeisydd ymhellach
ar ei fersiynau ef o ddigwyddiadau a’i atgofion o’r digwyddiadau. Cwestiynwyd
yr Ymgeisydd hefyd ynghylch problemau iechyd mwy diweddar yn ymwneud â
dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol yn sgil ei euogfarnau a’i dystysgrif
feddygol. Wrth wneud ei ddatganiad terfynol
mynegodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am ei gamau blaenorol ac ategodd nad
oedd ganddo broblem gydag alcohol.
Ystyriodd ei fod yn dda gyda’r cyhoedd a darparodd esiamplau yn ei
gyflogaeth bresennol. Darparodd yr
Ymgeisydd eirda cymeriad hefyd gan ei gyflogwr cyfredol a ddarllenwyd i’r pwyllgor
cyn y trafodaethau.
Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a –
PHENDERFYNWYD gwrthod
cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 047324.
Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn –
Tra bod y cais o fewn canllawiau’r
polisi, dyletswydd hollbwysig y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd. Wedi ystyried ffeithiau’r achos a’r atebion a
roddwyd mewn eglurhad gan yr Ymgeisydd, roedd gan y pwyllgor bryderon penodol
mewn perthynas â’r euogfarn yn ymwneud ag alcohol, dibyniaeth ar alcohol fel y
trafodwyd a’r drosedd anwedduster. O
ganlyniad nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn abl ac
addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais.
Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad
a’r rhesymau am hynny ac fe’i cynghorwyd nad oedd y penderfyniad yn ei atal rhag gwneud cais yn y
dyfodol. Fe’i argymhellwyd hefyd am ei hawl
i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn dau ddeg un diwrnod.
[Ni chymerodd y Cynghorydd Arwel Roberts ran yn y
drafodaeth na phleidleisio dros y mater hwn gan nad oedd wedi bod yn bresennol
drwy gydol yr holl achos]