Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 047319

Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)

11 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYD HURIO PREIFAT - RHIF 047319

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer trwydded gyrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  047319

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais rhif 047319 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 047319 ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yn sgil gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd ag euogfarnau moduro oedd ar Drwydded DVLA yr ymgeisydd;

 

(iii)         darparwyd crynodeb o euogfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1989 tan 2009 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod ac anonestrwydd;

 

(iv)         polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)          bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac esboniodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded yn sgil yr euogfarnau a ddatgelwyd.

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais gan gyfaddef ei droseddau a mynegi edifeirwch am weithredoedd blaenorol. Esboniodd ei amgylchiadau personol, gan ddweud ei fod wedi symud i Gymru rhai blynyddoedd yn ôl gan amlygu ei ymrwymiadau teuluol a’i gyfrifoldebau, a chyfeiriodd at ei gysylltiad gyda’r fasnach dacsi a’i ddymuniad i ddod yn yrrwr tacsi.  Fe wnaeth yr Ymgeisydd hefyd esbonio amgylchiadau’r troseddau, gan egluro materion wrth ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd yr aelodau eisiau sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol ac fe fanylodd yr Ymgeisydd ar ei ffordd o fyw gyfredol a’i gysylltiadau cymunedol a’r berthynas ddibynadwy gyda’i gyflogwr cyfredol.  Sicrhaodd y pwyllgor ei fod wedi dysgu o’i gamgymeriadau yn y gorffennol ac wedi newid ei fywyd.  Darllenwyd geirda gan gyflogwr yr Ymgeisydd i’r pwyllgor gan dystio i’w gymeriad da.  Yn ei ddatganiad terfynol, diolchodd yr Ymgeisydd i aelodau am y cyfle i gyflwyno ei achos a gofynnodd i’r pwyllgor edrych yn ffafriol ar ei gais.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 047319.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y pwyllgor trwyddedu fel a ganlyn –

 

Roedd y pwyllgor wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus ac wedi gwrando ar gyflwyniad yr Ymgeisydd a’i ymateb i gwestiynau’r aelodau ac wedi eu plesio gydag ymddygiad yr Ymgeisydd ac yn ystyried ei fod yn dweud y gwir wrth roi sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad cyfredol ac yn y dyfodol.  O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn abl ac addas i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.  Roedd euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd wedi peri pryder i’r pwyllgor fodd bynnag, ac fe’i rhybuddiwyd y byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol a fyddai’n peri iddo ddod gerbron y pwyllgor yn cael ymdriniaeth lem.

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny.

 

[Dymunodd y Cynghorydd Stuart Davies ei roi ar gofnod ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.]