Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2013/14
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 15)
15 RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 PDF 68 KB
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer ei chymeradwyo ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynglŷn â materion perthnasol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
nodi cynnwys rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen waith i’r
dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.
Roedd adolygiad o’r polisi cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat yn symud ymlaen yn dda a byddai adroddiad ar
hynny yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn Rhagfyr 2013 cyn dechrau ymgynghoriad
ffurfiol. Darparwyd manylion am yr
ymgynghoriad hefyd.
PENDERFYNWYD
nodi rhaglen waith
y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 p.m.