Mater - cyfarfodydd
PROCEDURES FOR NEW AND REVISED POLICIES
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 13)
13 GWEITHDREFNAU AR GYFER POLISÏAU NEWYDD A DIWYGIEDIG PDF 62 KB
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i
aelodau gymeradwyo’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu ar gyfer drafftio polisïau
newydd a diwygio polisïau cyfredol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r gweithdrefnau ar gyfer llunio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu
polisïau cyfredol (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau o’r gweithdrefnau i’w mabwysiadu
ar gyfer drafftio polisïau newydd a diwygiedig.
Ar wahân i ofynion statudol, nid oedd unrhyw
weithdrefnau ysgrifenedig ar waith i swyddogion eu dilyn wrth ddrafftio
polisïau trwyddedu newydd neu wrth adolygu polisïau trwyddedu presennol. Dylai cymeradwyo cyfres o weithdrefnau leihau
unrhyw risg o wneud y Cyngor yn agored i wall gweinyddol a heriau.
Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol –
·
byddai
polisïau newydd yn cynnwys ymgynghoriad llawn, gan gynnwys sgrinio’r polisi
drwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Asesu Effaith ar Gydraddoldeb, ac adrodd
amlinelliad y polisi a chwmpas yr ymgynghoriad i aelodau.
·
ar
gyfer polisïau cyfredol sydd angen diwygiadau cyffredinol, byddai swyddogion yn
trafod diwygiadau bwriedig gydag aelodau, ynghyd ag unrhyw ofyniad ymgynghori a
byddent yn gofyn i aelodau argymell
mabwysiadu’r diwygiadau i’r Aelod arweiniol
·
byddai
Pennaeth y Gwasanaeth yn cymeradwyo diwygiadau polisi bach gan gynnwys
diweddariadau deddfwriaethol neu mewn achosion lle ystyriwyd na fyddai’r newid
yn effeithio ar bwrpas y polisi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gweithdrefnau
ar gyfer drafftio polisïau trwyddedu newydd ac adolygu polisïau cyfredol (fel y
manylir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn).