Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

LICENSING COMMITTEE PROCEDURES FOR DETERMINING HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER APPLICATIONS AND REVIEWS

Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 GWEITHDREFNAU'R PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER PENDERFYNU AR GEISIADAU AC ADOLYGIADAU CERBYDAU HACNI A GYRWYR HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 60 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i aelodau gymeradwyo gweithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau cerbydau hacni a cheisiadau gyrwyr hurio preifat ac adolygiadau trwyddedau gyrwyr presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo trefniadau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac  adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat (fel y nodir yn yr atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth aelodau o weithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat cyfredol.

 

Esboniwyd bod y gweithdrefnau cyfredol wedi dyddio wedi iddynt gael eu teilwra’n wreiddiol ar gyfer trwyddedau adloniant/eiddo cyhoeddus ac roedd angen cyfres o weithdrefnau i ddelio’n benodol â cheisiadau ac adolygiadau gyrwyr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo gweithdrefnau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat ar gyfer gyrwyr trwyddedig cyfredol (fel y manylir yn atodiad yr adroddiad hwn).

 

Yn y fan hon dynododd y Cadeirydd ei fwriad i amrywio trefn y rhaglen i fod yn addas i’r unigolion hynny a oedd wedi dod i’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau/adolygiadau trwydded ac i glywed eu hachosion cyn unrhyw fater arall.