Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE PROCEDURES FOR DETERMINING HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER APPLICATIONS AND REVIEWS
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn
i aelodau gymeradwyo gweithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer
penderfynu ar geisiadau cerbydau hacni a cheisiadau gyrwyr hurio preifat ac
adolygiadau trwyddedau gyrwyr presennol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
cymeradwyo trefniadau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau
ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr
hurio preifat (fel y nodir yn yr
atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn
am gymeradwyaeth aelodau o weithdrefnau diwygiedig y Pwyllgor Trwyddedu ar
gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau hacni a gyrwyr hurio
preifat cyfredol.
Esboniwyd bod y gweithdrefnau cyfredol wedi dyddio
wedi iddynt gael eu teilwra’n wreiddiol ar gyfer trwyddedau adloniant/eiddo
cyhoeddus ac roedd angen cyfres o weithdrefnau i ddelio’n benodol â cheisiadau
ac adolygiadau gyrwyr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gweithdrefnau’r
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac adolygiadau cerbydau
hacni a gyrwyr hurio preifat ar gyfer gyrwyr trwyddedig cyfredol (fel y manylir
yn atodiad yr adroddiad hwn).
Yn y fan hon dynododd y Cadeirydd ei fwriad i
amrywio trefn y rhaglen i fod yn addas i’r unigolion hynny a oedd wedi dod i’r
cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau/adolygiadau trwydded ac i glywed eu hachosion
cyn unrhyw fater arall.