Mater - cyfarfodydd
SUITABILITY OF A VEHICLE FOR A PRIVATE HIRE LICENCE
Cyfarfod: 12/06/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 ADDASRWYDD CERBYD AR GYFER TRWYDDED HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau benderfynu ar gais Trwydded Hurio Preifat.
Penderfyniad:
RESOLVED
cymeradwyo cais Trwydded Hurio Preifat ar gyfer y cerbyd dan sylw a’r seddi fel
y maen nhw.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –
(i)
chais a dderbyniwyd ar gyfer
Trwydded Cerbyd Hurio Preifat;
(ii)
nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn
cydymffurfio â’r manylion fel y manylir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat y Cyngor, sef yn bennaf
(1) nid oedd lleoliad y seddi’n darparu digon o le i’r teithwyr gerdded heibio
a (2) byddai gofyn i deithwyr blygu un o’r seddi eraill yn ei blaen i gael
mynediad/gadael y seddi cefn, a
(iii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â’i Gynrychiolydd
ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cadarnhaodd yr
aelodau hefyd eu bod wedi derbyn, drwy e-bost, wybodaeth atodol gan yr
Ymgeisydd o blaid ei gais a oedd ar gael i bawb â diddordeb cyn y cyfarfod.
Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu’r adroddiad a gofynnodd i’r pwyllgor ystyried a fyddai’n
addas gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor yn ymwneud â manylion cerbyd, er mwyn
caniatáu’r cais.
Esboniodd Cynrychiolydd
yr Ymgeisydd mai’r prif bryder oedd y byddai addasu manylion y cerbyd i
gydymffurfio â pholisi cyfredol y cyngor yn golygu bod yr ymgeisydd yn mynd yn
groes i gymeradwyaeth math cywir ac fe allai hyn olygu mai ef fyddai’n bersonol
atebol pe bai damwain. Cyfeiriodd hefyd
at y cyngor a gafodd gan VOSA a’r Adran Drafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw, a
thynnodd sylw’r aelodau at y wybodaeth atodol (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
cynnwys llythyr gan Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat o blaid y cais.
Cyfeiriodd Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat at –
·
Ganllaw Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth
·
barnau o ddwy her gyfreithiol aeth i’r Llys Ynadon
·
datganiad gan Ford UK yn ymwneud ag addasiadau seddi
Yn sgil y dystiolaeth a gyflwynwyd, gofynnodd
Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i’r pwyllgor ganiatáu’r cais ar gyfer y cerbyd dan
sylw, gyda lleoliad presennol y seddi . Gofynnodd hefyd i’r agwedd hon ar
ganllawiau’r polisi gael ei hystyried fel rhan o adolygiad polisi trwyddedu
cerbydau hacni a hurio preifat cyfredol.
Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd yr Ymgeisydd
a’i Gynrychiolydd esboniad ynghylch lleoliad y seddi mewn mwy o fanylder, gan
gynnwys mynediad a ffordd allan o gefn y cerbyd, ynghyd â’r goblygiadau pe
bai’r seddi yn cael eu tynnu ymaith. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd wedi cael
copi o amodau’r cyngor cyn prynu’r cerbyd.
O ran y gofod lleiaf sydd ei angen i deithwyr, rhoddodd Cynrychiolydd yr
Ymgeisydd wybod bod bwlch y sedd flaen yn mesur yr un faint â sedd gefn y
cerbyd dan sylw a oedd yn dod o dan yr isafswm a nodwyd yn yr amodau. Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd
Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i aelodau ganiatáu’r cais. Os nad oedd y pwyllgor o blaid caniatáu’r
cais gyda lleoliad presennol y seddi, gofynnodd a oedd modd cael tystysgrif yn
rhyddhau’r Ymgeisydd o unrhyw atebolrwydd pe bai damwain.
Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried
yr achos a –
PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer
Trwydded Cerbyd Hurio Preifat mewn perthynas â’r cerbyd dan sylw gyda lleoliad
presennol y seddi.
Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn –
Roedd aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn ac roeddent wedi ystyried eu cyfrifoldebau mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau. Roedd y pwyllgor yn fodlon fod y cerbyd yn y cais yn diwallu gofynion cyfreithiol i’w ddefnyddio fel cerbyd ... view the full Cofnodion text for item 9