Mater - cyfarfodydd
DAY SERVICES
Cyfarfod: 25/06/2013 - Cabinet (Eitem 12)
12 ADOLYGU GWASANAETHAU DYDD PDF 110 KB
Ystyried
adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy’n darparu trosolwg o’r cynigion i
ailfodelu gwasanaethau dydd pobl hŷn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr
adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu trosolwg o’r
cynigion i ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn. Mae’r cynigion yn ymwneud yn bennaf â’r
newidiadau i ogledd Sir Ddinbych, fodd bynnag mae’r egwyddorion strategol
ategol ar gyfer hyrwyddo annibyniaeth pobl trwy ail-alluogi a’r defnydd o
adnoddau cymunedol yn berthnasol i’r sir gyfan.
Mae rhesymeg y cynigion wedi ei darparu ac mae’r maes gwasanaeth wedi ei
adnabod fel maes ar gyfer toriadau cyllidebol yn y cynllun ariannol tymor canolig.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y
dylid addasu Datganiad y Prif Swyddog Cyllid i ddweud “Mae’r adroddiad yn
awgrymu y bydd arbedion yn codi yn sgil yr arolwg ac y byddai’r rhain yn cael
eu hail-fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Bydd y cynigion hefyd yn rhyddhau
gofod yn un o’n hadeiladau y gallwn ei ddefnyddio er dibenion eraill".
Mae Atodiad 1 a 2
yn cynnwys manylion rhai o’r ymgynghoriadau sydd wedi eu cynnal ac elfennau o’r
model sydd wedi eu newid i adlewyrchu rhai o’r materion a godwyd. Mae’r adroddiad yn argymell ym mharagraffau
4.10 a 4.13 y dylid cymeradwyo gweithredu’r model newydd.
Cafwyd crynodeb o’r adroddiad, a oedd yn cynnwys:-
-
Yn 2012 nododd Llywodraeth Cymru'r angen i
wasanaethau cymdeithasol Cymru ymateb i’r newid cynyddol yn nisgwyliadau
cymdeithasol, i’r newid demograffig ac i’r sefyllfa anodd o ran caffael
adnoddau.
-
Ym
mis Ionawr 2013 cyflwynwyd Bill Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) i
Lywodraeth Cymru.
-
Y
sail ar gyfer creu model Sir Ddinbych ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion.
-
Ar y
cyfan, mae ar bobl eisiau cadw eu hannibyniaeth a'u cysylltiadau yn eu cymuned
yn hytrach na mynychu canolfan arbennig ar gyfer pobl hŷn.
-
Ceir
hefyd nifer o wasanaethau cymunedol datblygedig yn cynnig gwasanaethau i bobl o
bob oed.
-
Y
ffaith y dylai pobl gael mynediad at adnoddau cymunedol, dull sy’n gyson â Bill
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
-
Mae
strategaeth ail-alluogi Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus iawn gan alluogi
pobl i adennill sgiliau a hyder er mwyn byw’n annibynnol.
-
Mae
Llys Nant a Hafan Deg yn ganolfannau dydd traddodiadol sy’n darparu gwasanaeth
gwych a gwerthfawr i’r rheiny sy’n mynd yno.
-
Mae
nifer y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau yn y lleiafrif o gymharu â chyfanswm
poblogaeth pobl hŷn yr ardal. Mae tystiolaeth
o hyn yn Atodiad 3. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynychu’r canolfannau hyn ddwy
neu dair gwaith yr wythnos ac mae manylion ynglŷn â hynny yn Atodiad 4.
Tynnwyd sylw’r
Aelodau at y cynnig diwygiedig canlynol:-
·
Symud
gwasanaethau presennol Prestatyn o Lys Nant i Nant y Môr - Bydd hyn yn rhoi
cyfle i bobl ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach gyda thrigolion Nant
y Môr a chymryd rhan mewn mwy o weithgareddau sy’n cael eu cynnig yn y
cyfleuster Gofal Ychwanegol. Bydd defnyddwyr gwasanaeth presennol a newydd
gydag anghenion cymwys yn cael eu cefnogi 3 diwrnod yr wythnos trwy weithgaredd
“galw i mewn” sy’n helpu’r bobl i gymdeithasu. Byddan nhw’n derbyn cefnogaeth
ar y ddau ddiwrnod arall i leihau’r ymdeimlad o unigedd.
·
Yn y
tymor canolig/ tymor hir, edrych ar symud darpariaeth gofal dydd y Rhyl i Orwel
Newydd - Fodd bynnag, byddem yn sicrhau bod unrhyw gynllun yn adnabod pwrpas
addas a chynaliadwy ar gyfer adeilad Hafan Deg. Mae hyn yn cynnwys datblygu
cyfleusterau yn y ganolfan i'n cynorthwyo i ddatblygu ein dull ail-alluogi h.y.
sefydlu cegin ‘gartref’, yn ogystal ag edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r
adeilad ar gyfer ystod o weithgareddau cymdeithasol a chefnogi ar gyfer pobl
hŷn sy’n byw yn War Memorial Court a’r ardal.
· Ein cam cyntaf ... view the full Cofnodion text for item 12