Mater - cyfarfodydd
CEFNDY HEALTHCARE: FUTURE DIRECTION AND IMPACT OF POTENTIAL LOSS OF DWP FUNDING
Cyfarfod: 25/06/2013 - Cabinet (Eitem 8)
8 DYFODOL GOFAL IECHYD CEFNDY PDF 100 KB
Ystyried
adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy’n gofyn am gefnogaeth i achos busnes Gofal
Iechyd Cefndy am fuddsoddiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Cefndy App 1, Eitem 8 PDF 173 KB
- Cefndy App 2 , View reasons restricted (8/3)
- Cefndy App 3, Eitem 8 PDF 247 KB
- Cefndy App 4 , View reasons restricted (8/5)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Hugh Irving yr
adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, ar berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn
y gorffennol a’r angen am fuddsoddiad. Er bod perfformiad ariannol a gwasanaeth
Cefndy wedi bod yn dda, mae’r ffaith bod Cefndy wedi cyflawni effeithlonrwydd
wedi atal y gwasanaeth rhag buddsoddi yn ei isadeiledd.
Mae Sir Ddinbych wedi ffurfio ymrwymiad yn ei Gynllun Corfforaethol i
gefnogi bodolaeth Cefndy yn y dyfodol drwy gymeradwyo buddsoddiad cyfalaf. Mae’r adroddiad yn darparu cyfiawnhad
dros fuddsoddiad cyfalaf ac yn amlinellu dewisiadau ar gyfer ffatri newydd er
mwyn galluogi Cefndy i ddatblygu a dod yn gynaliadwy heb gefnogaeth refeniw
parhaus gan Sir Ddinbych. Mae crynodeb o Ofal Iechyd Cefndy, busnes a gefnogir
gan Sir Ddinbych, wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac mae copi o Gynllun Busnes
Cefndy i’w gael yn Atodiad 1.
Yn y pum mlynedd
ddiwethaf mae Cefndy wedi cynyddu perfformiad gwerthiant i £3.8 miliwn, ac wedi
lleihau ei ddibyniaeth ar Sir Ddinbych o £200 mil. Fodd bynnag, yr her sy’n wynebu’r sefydliad
rŵan yw cynaladwyedd y busnes/gwasanaeth ac fe allai hynny fygwth dyfodol
Cefndy os nad yw’n cael ei ddatrys. Rhoddodd
y swyddogion grynodeb o’r dewisiadau sydd ar gael (mae’r dewisiadau hyn wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad ac yn Atodiad 3):-
a.
Parhau
â’r cynllun presennol a thynnu cymhorthdal Sir Ddinbych.
b.
Cadw
lefel o gymhorthdal ar gyfer cyfnod estynedig.
c.
Buddsoddiad
cyfalaf fel y nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol.
Mae’r wybodaeth
ganlynol hefyd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad:-
-
Sut
mae’r penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol
-
Costau
a’u heffaith ar wasanaethau eraill.
-
Prif
gasgliadau’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad 4.
-
Ymgynghoriadau
a gynhaliwyd.
-
Datganiad
y Prif Swyddog Cyllid.
-
Risgiau
a’r mesurau i’w lleihau.
Mewn ymateb i’r pryderon a
fynegwyd gan y Cyng. Jeanette Chamberlain-Jones yn ymwneud â phroblemau aelodau
o staff wrth ddefnyddio adeiladau allanol a storfeydd ar y safle, cadarnhaodd
Rheolwr Cyffredinol Gofal Iechyd Cefndy
y byddai’r aelodau o staff yn parhau i ddefnyddio’r adeiladau allanol a bod y
materion wedi eu datrys. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles
bod pob ymdrech wedi ei wneud i sicrhau llety addas ond yn aflwyddiannus.
Bu i’r Cabinet gydnabod
llwyddiannau Cefndy o ran gwrthdroi’r duedd o ddibynnu’n ormodol ar gefnogaeth
ariannol Sir Ddinbych drwy ddarparu twf masnachol ac effeithlonrwydd
ariannol. Amlygodd y Cyng. Irving
gyfraniad Cefndy at yr economi lleol a’u rôl fel darparwr gwaith i bobl anabl.
Ystyriodd yr
Aelodau’r dewisiadau gan gefnogi Dewis C a darparu buddsoddiad a fyddai’n
arwain at gynaladwyedd ariannol heb gyllideb Sir Ddinbych. Roedd y Cabinet hefyd yn cefnogi cyflwyno
cais am Grant Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cost lawn y gwaith i
gydnabod y byddai tynnu cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi pwysau
ychwanegol ar y system fudd-daliadau heb y buddsoddiad hwn.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-
(a)
derbyn
yr adroddiad ac yn nodi sylwadau’r Aelodau;
(b)
cefnogi’r
cynigion ar gyfer buddsoddiad, Dewis C, yn amodol ar gytundeb y Grŵp
Buddsoddi Strategol; ac yn
(c) cefnogi cais y busnes am Grant
Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cost lawn y gwaith i gydnabod y
byddai tynnu cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi pwysau ychwanegol ar y
system fudd-daliadau heb y buddsoddiad hwn.