Mater - cyfarfodydd
Partneriaeth Iechyd Meddwl
Cyfarfod: 25/06/2013 - Cabinet (Eitem 7)
7 PARTNERIAETH IECHYD MEDDWL PDF 83 KB
Ystyried
adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Cabinet ystyried partneriaeth
newydd rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Arweinydd yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, ac eglurodd bod
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yn cael eu darparu ar hyn o bryd gan
Bartneriaeth Iechyd Meddwl Oedolion Conwy a Sir Ddinbych. Roedd y Bartneriaeth
i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2013. Mae angen penderfyniad gan y Cabinet
er mwyn cytuno ar drefniadau partneriaeth newydd rhwng y Cyngor a Phrifysgol
Betsi Cadwaladr i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Rhoddodd yr
Arweinydd grynodeb ar gefndir y Bartneriaeth a sefydlwyd a chynhaliwyd gan
gytundeb ffurfiol cyfreithiol dan Adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999, sef Cytundeb
Adran 33 bellach. Roedd y Cytundeb Partneriaeth yn gytundeb ar bolisïau a
threfnau cyffredin ar draws y gwasanaeth ac mae copi o’r adroddiad gwreiddiol a
gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Chwefror 2005, ynghyd â Phapur Briffio’r Cabinet,
wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad.
Mae’r newidiadau
a ddeilliodd o greu Prifysgol Betsi Cadwaladr a datblygu model y Grŵp
Rhaglen Clinigol wedi eu gwneud hi’n gynyddol anodd i reoli’r bartneriaeth
gyfredol ochr yn ochr â threfniadau mewn man arall yn y Grŵp Rhaglen
Clinigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng ngweddill dalgylch Prifysgol
Betsi Cadwaladr. Roedd hyn, ynghyd â'r gofyniad i ymateb i Fesur Iechyd Meddwl
(Cymru) 2010, wedi cymell adolygiad o’r trefniadau cyfredol mewn perthynas â’r
Bartneriaeth yn Sir Ddinbych.
Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes na fydd diweddu’r
Bartneriaeth gyfredol a chreu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Cyngor a
Phrifysgol Betsi Cadwaladr yn cael unrhyw effaith ar y gwasanaeth. Bydd
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn eglurach a bydd yn gofyn i Brifysgol
Betsi Cadwaladr ddarparu gwybodaeth fel rhan o broses sy'n fwy prydlon a
rheolaidd. Dywedodd bod safon y
gwasanaeth a ddarperir yn Sir Ddinbych yn uchel iawn.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno:-
(a)
bod
Partneriaeth Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol presennol Conwy a Sir Ddinbych
yn dod i ben ar 3 Gorffennaf 2013 a
(b) bod
Sir Ddinbych yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r model a ddatblygwyd yn wreiddiol
wrth greu'r Bartneriaeth, ond y dylid adlewyrchu hyn rŵan mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu’r gwasanaethau hyn.