Mater - cyfarfodydd
CORPORATE PLAN QPR: QUARTER 3 2012/13
Cyfarfod: 16/04/2013 - Cabinet (Eitem 8)
8 CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012/17 - Chwarter 3 PDF 73 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith (mae copi ynghlwm) sy’n cyflwyno
diweddariad trydydd chwarter ar waith cyflwyno Cynllun Corfforaethol 2012-17.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
- y Cabinet i dderbyn yr adroddiad a nodi
sylwadau’r Aelodau yn ymwneud â’r materion perfformiad a godwyd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd B.A. Smith yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, fel yr oedd ar
ddiwedd Rhagfyr 2012, yn rho
Byddai
adrodd yn rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol o’r Cynllun Corfforaethol i
sicrhau bod y cyngor yn gweithredu e
·
Datblygu'r
economi leol
·
Gwella
perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion
·
Gwella
ein ffyrdd
·
Mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu gwarchod ac yn gallu byw mor annibynnol
â phosibl
·
Strydoedd
glân a thaclus
·
Sicrhau
mynediad at dai o ansawdd da
·
Moderneiddio’r
cyngor i sicrhau arbedion a gwella gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid
Ymatebodd y Rheolwr Tîm Gwella
Corfforaethol (RhTGC) i gwestiynau oddi wrth Aelodau a chyfeiriodd at y
diffiniad statws codau lliw ar dudalen 57. Roedd pob dangosydd a mesur
perfformiad wedi cael statws yn disgrifio'r sefyllfa bresennol ac roedd y lliw
yn rhoi disgrifiad o’r statws.
Eglurwyd bod hwn yn Gynllun
Corfforaethol pum mlynedd a bod statws y dangosyddion unigol a’r mesurau
perfformiad yn cael eu cefnogi gan ddata ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd
y meysydd canlynol lle efallai bod angen gwaith pellach wedi eu hamlygu yn yr
adroddiad:-
- Nid
yw’r gwaith i ffurfioli cynlluniau ar gyfer cyrbau is wedi symud ymlaen ac
roedd wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a’r Cynllun
Corfforaethol. Cytunodd y Cynghorydd D.I. Smith fynd ar drywydd pryderon a godwyd gan y Cynghorydd J.R. Bartley mewn perthynas â ffyrdd heb eu
mabwysiadu a materion cynllunio yn ymwneud â darparu cyrbau is yn ardal
datblygiadau ar gyfer pobl anabl.
-
Roedd canran y disgyblion sy’n
gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella” ac
angen ymdrechion parhaus i wella hyn i statws “derbyniol”. Cadarnhaodd y RhTGC y bydda
- Roedd cyflwyno’r holl rybuddion cosb
benodol wedi bod yn fwy na’r disgwyl, ond roedd cyflwyno rhybuddion cosb
benodol ar gyfer baw cŵn wedi cael ei amlygu fel “blaenoriaeth ar gyfer
gwella” gyda data yn awgrymu mai 2% yn unig o’r holl rybuddion cosb benodol a
gyflwynwyd oedd yn ymwneud â baw cŵn. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan
y Cynghorydd D. Simmons bod ardal Y Rhyl wedi cael ei thargedu, eglurodd y PW
bod adnoddau wedi cael eu canolbwyntio ar ardaloedd lle nodwyd bod problemau
gwrthgymdeithasol. Cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch
rhybuddion cosb benodol a bod y fframwaith perfformiad wedi bod yn dda. Roedd
Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod yn fodlon ar y gwaith a wnaed ac wedi
mynegi eu cefnogaeth i'r fenter a gyflwynwyd. Bu gostyngiad sylweddol mewn
ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwelliant cyffredinol yn yr amgylchedd, a
bwysleisiodd arwyddocâd a phwysigrwydd y prosiect.
- Wedi’i nodi fel "blaenoriaeth ar gyfer gwella" oedd canran y cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol ... view the full Cofnodion text for item 8