Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

TOWN AND AREA PLANS

Cyfarfod: 16/04/2013 - Cabinet (Eitem 7)

7 SYMUD O GYNLLUNIAU TREF I GYNLLUNIAU ARDAL pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans (mae copi ynghlwm) ar gynnydd o ran ehangu Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth am y broses o ymestyn y Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.

 

Eglurodd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2011/12, wedi datblygu a chytuno ar Gynlluniau Trefol ar gyfer saith o brif drefi’r sir, heb gynnwys y Rhyl. Roedd ymarferiad wedi cael ei gynnal yn y Rhyl i ddatblygu Cynllun Darparu Y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd y Cynlluniau Trefol wedi caniatáu i anghenion a blaenoriaethau cymunedol gael eu nodi ar gyfer pob prif anheddiad. Fodd bynnag, hyd yma, nid oeddent wedi delio ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Ym mis Ionawr 2013, fe gytunodd y Cabinet i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac roedd yr adroddiad yn disgrifio sut byddai hynny’n digwydd. Roedd y Cynlluniau Tref ar gyfer Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, Rhuthun a Llanelwy wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet rhwng 2011 a Mawrth 2012.

 

Ym mis Ionawr 2013, fe gymeradwyodd y Cabinet ddyraniad cyllid cychwynnol ar gyfer prosiectau a nodwyd yn flaenoriaethau Blwyddyn 1 yn y Cynlluniau Trefol. Fe gytunodd y Cabinet ar yr un pryd i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach. Roedd Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol wedi ystyried y broses briodol i ymestyn y Cynlluniau Trefol presennol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac wedi delio â 3 phrif gwestiwn:-

 

i)                         Beth yw’r ‘ardal’ briodol ar gyfer Cynllun Ardal?

ii)                        Sut y dylid datblygu’r Cynlluniau Ardal?

iii)                       Sut olwg fydd ar y Cynlluniau Ardal?

Fe ystyriodd y Grŵp ddau opsiwn a oedd yn cynnwys Cynlluniau’n cwmpasu ardaloedd y Grŵp Aelodau Ardal (GAA), neu ardaloedd sy’n cynnwys y Trefi a’r cymunedau sydd â pherthynas draddodiadol neu naturiol â nhw. Oherwydd mai bwriad y Cynlluniau Ardal oedd cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gynllunio’n seiliedig ar y gymuned a’i uchelgais i fod yn Nes at y Gymuned, daeth Aelodau’r Grŵp i’r casgliad mai’r ail opsiwn – Trefi a’u Cymunedau Cysylltiedig – oedd yr opsiwn dewisol. Roedd y grŵp yn credu bod Cynlluniau o’r fath yn haws i’w deall gan breswylwyr a byddai’r dull hwn yn unol ag arferion gorau mewn cynllunio a arweinir gan y gymuned a datblygiad economaidd trefi marchnad.

 

Roedd Atodiad 1 yn nodi’r cymunedau y byddai pob Cynllun yn ei gwmpasu, ac roedd y rhain wedi eu trafod a’u cadarnhau gan y GAA a chredwyd eu bod yn cynrychioli’r cysylltiadau naturiol a oedd yn ‘ffitio orau’ rhwng cymunedau a threfi. Daeth y Grŵp i’r casgliad y dylid cael cyfanswm o 9 o Gynlluniau, y 7 Cynllun Trefol presennol, Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen a Chynllun newydd ar gyfer Bodelwyddan, i’w datblygu pe bai’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.

 

Roedd y Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol yn cydnabod fod yn rhaid i ymgynghori lleol da fod yn sail i’r Cynlluniau Ardal newydd os oedden nhw i fod yn wirioneddol seiliedig ar gymunedau ac yn adlewyrchol o anghenion a blaenoriaethau lleol. Er mwyn sicrhau cysondeb y dull gweithredu, roedd y Grŵp Cydlynu wedi cadarnhau fframwaith eang ar gyfer ymgynghori ac roedd hyn wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Yn unol â’r Siarter Cynghorau Tref a Chymuned, roedd y cynigion wedi eu dylunio i sicrhau bod Cynghorau Cymuned yn arwain yr ymgynghori a’r ymgysylltu ar lefel leol

 

Amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd rôl y Cefnogwyr ac roedd y Grŵp wedi argymell bod y Cefnogwyr Cynlluniau Trefol, gyda chefnogaeth eu Swyddogion Cymorth, yn llunio cynlluniau ymgynghori manwl ar gyfer cymunedau llai a mwy gwledig i’w hymgorffori  ...  view the full Cofnodion text for item 7