Mater - cyfarfodydd
FINANCE UPDATE REPORT
Cyfarfod: 16/04/2013 - Cabinet (Eitem 5)
5 ADRODDIAD DIWEDDARIAD CYLLID PDF 271 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac
Asedau (mae copi y ddilyn) sy’n egluro’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- Revenue Appendix 1 Mar Outturn 1.2, Eitem 5 PDF 26 KB
- Appendix 2 Summary of carry forward requests 1.2, Eitem 5 PDF 34 KB
- Finance Report Appendix 3, Eitem 5 PDF 74 KB
- Appendix 4 Major Project Update Mar, Eitem 5 PDF 335 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:-
y Cabinet i nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd
arni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad,
a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn rhoi manylion cyllideb refeniw ac arbedion y
cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, ar ddiwedd Mawrth 2013, a darparodd
ddiweddariad cryno ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun
Cyfalaf Tai.
Eglurodd bod rhagolygon diweddaraf y gyllideb
refeniw wedi cael eu cyflwyno fel Atodiad 1 ac roedd yn dangos
tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o £994k, £1.1m y
mis diwethaf, a oedd yn cynrychioli amrywiad o 0.86% ar draws y gyllideb net
gyfan. Roedd tua £849k wedi cael ei ymrwymo i ariannu gwariant yn gynnar yn
2013/14 neu wedi cael ei gynnig i’w ddefnyddio gan wasanaethau'r flwyddyn
nesaf, gyda’r tanwariant oedd ar gael o bosibl yn £111k yn unig. Roedd y
sefyllfa ysgolion yn amcanu symudiad net cadarnhaol ar falansau o £294k, £306k
y mis diwethaf, ar gyllidebau dirprwyedig a £176k ar gyllidebau ysgolion heb eu
dirprwyo, £161k y mis diwethaf. Roedd y symudiad ar gyllidebau ysgolion heb eu
dirprwyo yn ymwneud â bod angen llai o wiriadau CRB yn ystod y flwyddyn na gynlluniwyd.
Roedd crynodeb o’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond
roedd hon yn gronfa ar wahân ac nid oedd yn rhan o brif gyllideb refeniw’r
Cyngor.
Rhoddodd y
Cyngor darged arbed net am y flwyddyn o £3.44m yng nghyllideb 2012/13 ac roedd
99.3% o’r arbedion wedi eu cyflawni neu wedi eu disodli gan ddod i swm o
£3.418m. Roedd y £25k a oedd yn weddill yn ymwneud â’r prosiect rhesymoli
argraffwyr ac roedd wedi ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.
Yn y tri
adroddiad cyllid diwethaf, roedd y testun ynglŷn â sefyllfa gwasanaethau
cefnogol wedi cyfeirio at sawl cynnig i gyfrannu at gronfeydd wrth gefn neu
gario balansau ymlaen i 2013/14. Mewn sawl achos, amseriad gwariant oedd y
broblem. Byddai’r adroddiad canlyniad terfynol i’r
Cyngor ym mis Mehefin yn cymeradwyo’n ffurfiol drosglwyddiadau i neu o
gronfeydd wrth gefn neu falansau, gan gynnwys arian a gariwyd drosodd. Roedd Atodiad 2, yn rhoi crynodeb o’r eitemau a
drafodwyd mewn adroddiadau blaenorol i’r Cabinet.
Roedd manylion
amrywiadau gwasanaeth allweddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac wedi eu
crynhoi ar gyfer yr Aelodau. Roedd y meysydd allweddol a’r materion yn cynnwys:-
Gwasanaethau
Oedolion a Busnes – Roedd yr alldro
cyfredol yn gytbwys gydag unrhyw droswariant yn cael ei ariannu o’r Gronfa
Cefnogi Pobl.
Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd – Roedd y tanwariant bach wedi cynyddo o £12k i £205k o ganlyniad i
gynnydd bach mewn lefelau incwm. Roedd tanwariant Priffyrdd ac Isadeiledd wedi
lleihau gan £16k i £158k gyda manylion y
newidiadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Darparwyd yr ymatebion canlynol
i gwestiynau oddi wrth yr Arweinydd:-
-
Nid oedd y cynnydd mewn lefelau incwm wed
-
O ganlyniad i'r tywydd garw a gafwyd byddai'r
gyllideb Cynnal a Chadw y Gaeaf yn cael e