Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

CAPITAL PLAN

Cyfarfod: 19/03/2013 - Cabinet (Eitem 10)

10 CYNLLUN CYFALAF

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawrion ac yn gofyn am argymhelliad y Cabinet i gymeradwyo Cynllun Cyfalaf y dyfodol i’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cydnabod sefyllfa ddiweddaraf elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawrion ac argymhell cymeradwyaeth y Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r Cyngor Llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr, a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r Cyngor llawn.  Mae crynodeb o’r cynllun cyfan a sut y bydd yn cael ei ariannu (Atodiad 1); manylion y gwir wariant a’r gwariant bwriedig gan bob Pennaeth Gwasanaeth (Atodiad 2), a chrynodeb o ragamcan cost ariannu’r Cynllun Corfforaethol (Atodiad 3) wedi’u hatodi i’r prif adroddiad.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau trwy’r adroddiad gan ymhelaethu ar y prosiectau mawr a’r cynnydd diweddaraf ac ymatebodd i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·         rhoddwyd gwybod am y graddfeydd amser i symud Ysgol Bro Dyfrdwy i safle sengl a chyllid perthnasol fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ehangach

·         cyfeiriwyd at y trafodaethau diweddaraf a chwblhau materion cyfreithiol yn ymwneud ag adleoli Llyfrgell Prestatyn a rhoddwyd sicrwydd na fydd unrhyw gyfleusterau llyfrgell yn cael eu colli am gyfnod sylweddol yn ystod y broses honno

·         cadarnhawyd bod derbynebau cyfalaf fel arfer yn cael eu cyflawni ar lefel pris y farchnad neu uwch, a

·         rhoddwyd gwybod bod tua £1.9m wedi’i argymell ar gyfer gwaith cynnal cyfalaf ysgolion.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams wybod am y meini prawf er mwyn cael arian Ysgolion 21ain Ganrif ac ymatebodd i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts ynglŷn â chynnydd y datblygiad yn Ysgol Glan Clwyd.  Mewn perthynas â gwaith cyfalaf esboniodd y broses o flaenoriaethu gwaith gwella ysgolion yn gyffredinol ac yn dilyn adolygiad ysgolion er mwyn gwella safonau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr a chymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r Cyngor Llawn.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.