Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 19/03/2013 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19
Chwefror 2013 (copi’n amgaeëdig).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD yn amodol ar
bwynt o gywirdeb, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror
2013 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a
gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2013.
Cywirdeb – Rhoddodd y Cynghorydd Richard Davies
wybod y cyfeiriwyd ato yn anghywir fel ‘J.R. Davies’ yn lle ‘R.J. Davies’ yn y
cofnodion.
Materion yn Codi – Tudalen 15 – Eitem rhif 9 Digwyddiad
Beicio Etape Cymru 2013, penderfyniad (c) – cytunodd y Cynghorydd Huw Jones i
wirio bod y cais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau lleol yn rheolaidd
mewn perthynas â phryderon yn cael ei ddatblygu.
PENDERFYNWYD,
ar ôl newid yr uchod, y dylid cymeradwyo bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 19 Chwefror 2013 yn gofnod cywir, a’u llofnodi gan yr Arweinydd.