Mater - cyfarfodydd
FINANCIAL UPDATE REPORT
Cyfarfod: 19/02/2013 - Cabinet (Eitem 5)
5 ADRODDIAD DIWEDDARU ARIANNOL PDF 116 KB
I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Budget Mon App 1, Eitem 5 PDF 26 KB
- Budget Mon App 2, Eitem 5 PDF 26 KB
- Budget Mon App 3, Eitem 5 PDF 7 KB
- Budget Mon App 4, Eitem 5 PDF 265 KB
- Budget Mon App 5, Eitem 5 PDF 34 KB
Penderfyniad:
Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol
cyfredol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol.
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-
(a)
Yn
nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn, fel y’u nodir yn yr
adroddiad, a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd
(b)
Yn
cytuno i’r ariannu gwaith dichonolrwydd o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol
Gymunedol Bodnant, Prestatyn hyd y swm o £1.8 miliwn
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol presennol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth
i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.
Esboniodd bod rhagolygon diweddaraf y
gyllideb refeniw wedi eu cynnwys fel Atodiad 1 ac roedden nhw’n dynodi
tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £631k (£435k y mis diwethaf), sy’n cynrychioli amrywiant o
0.55% ar draws cyfanswm y gyllideb net.
Ynglŷn â safle ysgolion, y rhagolygon ydi symudiad net positif ar
weddillion o £286k ar gyllidebau dirprwyedig a £161k ar gyllidebau ysgol
annirprwyedig. Roedd crynodeb o’r Cyfrif
Refeniw Tai wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond roedd hon yn gronfa
ar wahân ac nid yn rhan o brif gyllideb refeniw’r Cyngor.
Roedd Atodiad 2 yn rhoi diweddariad
ar gynnydd yn erbyn yr arbedion a’r pwysau a gytunwyd yn rhan o broses gosod
cyllideb ar gyfer 2012/13. Efo’i gilydd, fe gytunwyd ar arbedion net o
£3.443m ac mae £3.102m (90%) wedi eu cyflawni gyda £316k (9%) wedi ei
ddosbarthu i fod ar y gweill ac roedd £25k (1%) wedi ei ohirio tan y flwyddyn
nesaf. Roedd y gohiriad yn ymwneud ag
arbedion oherwydd rhesymoliad printiwr.
Fe ystyrid fod pob un o’r eitemau
a oedd ar ôl ac a oedd wedi eu dosbarthu i fod ‘ar y gweill’ yn gyraeddadwy,
ond gyda’r rhan fwyaf roedd angen dadansoddiad o weithgaredd blwyddyn gyfan i
asesu’n briodol a oedd y mesur arbed a restrwyd wedi ei gyflawni mewn
gwirionedd.
Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill grynodeb o’r
Cyllidebau Gwasanaeth canlynol a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad:-
·
Cynllunio Busnes a Pherfformiad
·
Gwasanaethau Oedolion a Busnes
·
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd
·
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
·
Cysylltiadau, Marchnata a Hamdden
·
Cymorth Cwsmeriaid ac Addysg
·
Gwella Ysgolion a Chynhwysiant
·
Ysgolion
·
Cyllidebau Corfforaethol
Esboniodd bod costau ychwanegol
yr ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau’r llifogydd diweddar wedi dod dan
drothwy’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys, ac roedd yna dybiaeth y byddai’r
Cyngor yn ariannu’r gost. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau fod hawliad am bob costau cymwys wedi ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid disgresiynol.
Roedd yna gostau cyfredol yn ymwneud ag eithriadau rhag Treth Gyngor ac
roedd pwysau pellach a oedd yn ymddangos wedi codi o ddirwyn y ‘Mutual
Municipal Insurance Company’ i ben yn 1992, gan y byddai Aelodau’r Awdurdod
Lleol yn gyfrifol am atebolrwydd a oedd yn dal i godi o ran digwyddiadau cyn 1992.
Esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai Sir Ddinbych yn talu
cyfran o’r hawliadau atebolrwydd, yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth a
fyddai’n oddeutu 20% o’r costau. Dywedodd wrth Aelodau y byddai cronfa wrth
gefn yn cael ei hadeiladu i mewn i’r gyllideb a byddai manylion y costau’n cael
eu cynnwys yn yr adroddiad cyllid nesaf i’r Cabinet.
Roedd yna atebolrwydd potensial o ran cyn
Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan, ac roedd atebolrwydd ychwanegol yn awr yn codi o
ran cyn Gyngor Sir Clwyd. Roedd swm
atebolrwydd potensial Clwyd yn ansicr ac roedd cyfanswm amlygiad y Cyngor i
hawliadau Clwyd oddeutu £2.5m, ond roedd yn annhebygol y byddai’r atebolrwydd
yn cael ei sbarduno ar y lefel yma.
Roedd cyfraddau casglu Treth Gyngor yn well na’r rhagdybiaethau ac fe dybiwyd y byddai unrhyw fantais yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu tuag at ariannu blaenoriaethau buddsoddi strategol y Cyngor yn rhan o’r Cynllun Corfforaethol. Cadarnhaodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai’r manylion llawn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad diwedd blwyddyn. Roedd gwariant hyd at ddiwedd ... view the full Cofnodion text for item 5