Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 044881

Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044881

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044881 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwyddedu gyrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ar ddifrifoldeb ei drosedd a’i ymddygiad i’r dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd rhif 044881 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)               Bod yr Ymgeisydd wedi ei gollfarnu am Fethu â Darparu Sampl i’w Ddadansoddi (wrth ofalu am gerbyd modur) ar 13 Hydref 2010 a’i wahardd rhag gyrru am 16 mis (wedi ei ostwng i 12 mis ar ôl cwblhau cwrs) a’i ddirwyo £160.00;

 

(iii)             Bod yr Ymgeisydd wedi dal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat ers 2006 a’i fod yn gyrru cerbyd trwyddedig adeg y drosedd (roedd yr Ymgeisydd wedi dweud ers hynny nad oedd yn cludo teithwyr talu pan ddigwyddodd y drosedd);

 

(iv)              Bod yr Ymgeisydd wedi methu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r drosedd o fewn saith diwrnod yn unol ag amodau trwyddedu, ac yn hytrach roedd wedi gadael i’w drwydded fynd yn ddi-rym ym mis Rhagfyr 2010;

 

(v)                Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(vi)              Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd yn wyneb y cyfnod cymharol fyr yn rhydd rhag troseddau gyrru.

 

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais, gan fynegi ei edifeirwch ynglŷn â’r drosedd. Ymddiheurodd hefyd am fethu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r gollfarn, a oedd oherwydd dryswch a phryder a ddioddefodd ynglŷn â'r digwyddiad. Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau ar amgylchiadau ei gollfarn a’i fethiant i ddarparu sampl i’w ddadansoddi, a chadarnhaodd iddo ddal trwydded gyrru tacsi heb ddigwyddiad ers 2006. I gloi, dywedodd yr Ymgeisydd iddo fynychu cwrs a argymhellwyd gan y llys a’i fod wedi dysgu gwersi o hwnnw. Ailadroddodd ei edifeirwch dwys a sicrhaodd yr aelodau na fyddai digwyddiad o’r fath eto.

 

Ar y pwynt hwn, ymneiltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe -

 

BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur preifat i Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ynglŷn â difrifoldeb ei drosedd a'i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, roedd y pwyllgor wedi ei berswadio mai digwyddiad unigol oedd y drosedd a bod yr Ymgeisydd yn ddiffuant yn ei sicrhad na fyddai’n digwydd eto. Roedd hefyd wedi cymryd i ystyriaeth bolisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnhau a nododd bod caniatáu’r cais yn unol â’u polisi hwy eu hunain a’r amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag collfarnhau yn gysylltiedig â diod. Yn unol â hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat ond teimlasant ei bod yn briodol rhoi rhybudd yn wyneb y drosedd a gyflawnwyd.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd.