Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLE VEHICLES - APPLICANT NO. 044879
Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044879
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044879 am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hur preifat.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat gan Ymgeisydd Rhif 044879.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –
(i)
Cais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd rhif 044879 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat;
(i)
Nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais oherwydd gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (
(ii)
Crynodeb o’r collfarnau a
ddatgelwyd a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau dros gyfnod o 1982 i 1995;
(iii)
Polisi presennol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd collfarnau, a
(ii)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.
Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb
o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd
bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd i
ddal trwydded o ystyried natur y collfarnhau.
Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi
ei gais, gan ddweud ei fod yn yrrwr profiadol, yn meddu ar drwydded yrru DVLA
am flynyddoedd yn rhydd rhag collfarnau moduro. Ystyriai ei fod yn dda gyda’r
cyhoedd a chredai y gallai ddarparu gwasanaeth cyhoedd gwerthfawr. Hefyd,
mynegodd ei edifeirwch ynglŷn â'i orffennol, gan ddweud ei fod wedi newid
ei fywyd ers hynny. Wrth ymateb i gwestiynau, manylodd yr Ymgeisydd ei
ymrwymiadau a’i gyfrifoldebau teuluol a’i gyflogaeth yn y gorffennol. Siaradodd
hefyd am ei ddymuniad i gael gwaith fel gyrrwr trwyddedig a fyddai, teimlai, yn
gam cadarnhaol.
Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe -
BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat i Ymgeisydd Rhif 044879.
Roedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -
Nododd yr Aelodau bod y troseddau wedi’u
disbyddu ac wedi digwydd beth amser yn ôl, a bod yr Ymgeisydd wedi bod yn rhydd
rhag collfarnau am ryw ddwy flynedd ar bymtheg. O ganlyniad, derbyniodd yr
aelodau gyflwyniad yr Ymgeisydd iddo newid ei fywyd ers hynny, a nodi’r
amgylchiadau a’r cyfrifoldebau teuluol. Nododd y pwyllgor hefyd bod caniatáu’r
cais yn unol â’i bolisi ei hun ynglŷn â pherthnasedd collfarnau a’r
amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag troseddau. Yn unol â
hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat.
Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y
pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd.