Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 043844

Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)

8 ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – GYRRWR RHIF 043844

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am benderfyniad gan yr Aelodau ar addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a gofyn iddo fynd ar gwrs Ymwybyddiaeth Gyrru cyn dwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ac ailystyried y penderfyniad i’w atal.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)                 Addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)               Roedd y Gyrrwr wedi cronni 12 pwynt cosb ar ei drwydded DVLA mewn cyfnod o dair blynedd ond roedd Ynadon Prestatyn wedi caniatáu iddo gadw ei drwydded DVLA, ar ôl derbyn y byddai ei wahardd yn achosi caledi eithriadol yn ei achos ef;

 

(iii)             Roedd manylion y cosbau ar Drwydded DVLA y Gyrrwr wedi eu darparu, gyda thair yn ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd;

 

(iv)              Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)                Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau gan yr Aelodau ar y mater.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad a chadarnhau bod y Gyrrwr wedi cydweithredu trwy gydol y broses. Nododd yr aelodau nad oedd y Gyrrwr yn bresennol er gwaethaf cael ei wahodd i fynychu.

 

Ystyriodd yr aelodau ffeithiau’r achos ac ar ôl trafodaeth fe –

 

BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a bod gofyn iddo fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru cyn dod â’r mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig, ac ailystyried yr ataliad a bennwyd.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried ffeithiau’r achos roedd gan yr aelodau bryderon difrifol ynglŷn ag ailadrodd y drosedd o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru a oedd yn dangos difaterwch y Gyrrwr tuag at y gyfraith a diogelwch y cyhoedd. Mynegwyd pryderon dwys hefyd ynghylch goblygiadau difrifol gweithrediadau’r Gyrrwr, gyda chanlyniadau a allai fod yn farwol. Fodd bynnag, ystyriai’r pwyllgor y byddai’r Gyrrwr yn elwa o fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru er mwyn newid ei ymddygiad. O ganlyniad, gofynnodd y Pwyllgor i’r Gyrrwr fynychu ei gyfarfod nesaf er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ar ôl iddo gwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru.

 

[Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am gael cofnodi'r ffaith iddi bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.]

 

Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd egwyl luniaeth.