Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF TWO LICENCES TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES

Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 ADOLYGU DWY DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu dwy drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat oherwydd methiant i gydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr yn llwyddiannus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)        cydnabod bod Gyrrwr Rhif 040740 wedi llwyddo yn y prawf o wybodaeth gyrwyr a pheidio â chymryd camau pellach, a

 

(b)       atal Gyrrwr Rhif 041605 nes bydd wedi cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus. Pe na byddai’r Gyrrwr wedi llwyddo yn y prawf erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor (6 Mawrth 2013) byddai’r mater yn cael ei ddwyn gerbron y cyfarfod hwnnw i’w benderfynu. Byddai llwyddo yn y prawf yn ystod y cyfnod atal yn arwain at ddileu’r penderfyniad i’w atal.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog  Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd dau Yrrwr, rhifau 040740 a 041605 (roedd adroddiadau unigol wedi eu rhestru fel Atodiad 1 ac Atodiad 2 i’r prif adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl methu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr o fewn yr amserlen a bennwyd.

 

Ystyriodd yr Aelodau’r amgylchiadau unigol yn ymwneud â phob Gyrrwr ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiant, fel a ganlyn –

 

(1)  Gyrrwr rhif 040740 (Atodiad 1) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu hanfon at y Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ac roedd wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu i esbonio’r rhesymau dros ei fethiant i gymryd y prawf gwybodaeth. Roedd y pwyllgor wedi penderfynu gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr tan y cyfarfod nesaf i roddi cyfle pellach i’r Gyrrwr sefyll y prawf gwybodaeth. Roedd y Swyddog Trwyddedu yn falch o adrodd bod y Gyrrwr ers hynny wedi llwyddo yn y prawf. O ganlyniad, fe –

 

BENDERFYNWYD cydnabod cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus gan Yrrwr rhif 040740 a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn –

 

Roedd y Gyrrwr nawr wedi cydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr ac felly ystyriwyd nad oedd angen cymryd camau pellach.

 

(2)  Gyrrwr Rhif 041605 (Atodiad 2) – Dyddiad Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011

 

Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu cyflwyno i’r Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymgais i gysylltu â swyddogion. Ar 21 Medi 2012 hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd ymateb gan y Gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 041605 nes byddai wedi cwblhau’n llwyddiannus brawf gwybodaeth gyrwyr. Byddai methiant i sefyll y prawf yn llwyddiannus cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor (6 Mawrth 2013) yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w benderfynu. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o fewn y cyfnod atal yn arwain at roddi ei drwydded yn ôl iddo.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn -

 

Ystyriai’r pwyllgor bod y Gyrrwr wedi cael digon o gyfle i gymryd prawf gwybodaeth y gyrrwr. Yn unol â hynny, ystyriai’r pwyllgor ei bod yn briodol atal trwydded y Gyrrwr nes byddai wedi llwyddo yn y prawf gwybodaeth.  Byddai methiant gan y Gyrrwr i lwyddo yn y prawf yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor yn y cyfarfod nesaf, pan roddid ystyriaeth ddifrifol i ddirymu ei drwydded ar sail y ffaith nad oedd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.