Mater - cyfarfodydd
POLICE REFORM AND SOCIAL RESPONSIBILITY ACT 2011 - LATE NIGHT LEVY AND EARLY MORNING RESTRICTION ORDER
Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu’r pwerau newydd sydd ar gael
i’r Awdurdod Trwyddedu o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Trwyddedu 2003
i wneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) cydnabod
cynnwys yr adroddiad ar Ardollau Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar,
a
(b) peidio
â chefnogi gwneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos,
a chyflwyno barn y Pwyllgor Trwyddedu i’r Cyngor Sir pan fyddai’n ystyried yr
adroddiad ar y mater hwn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn amlinellu’r pwerau newydd a oedd ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu
o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Drwyddedu 2003 i wneud Gorchmynion
Cyfyngu Bore Cynnar (EMRO) a phennu Ardollau Hwyr y Nos (LML).
Rhoddwyd peth gwybodaeth gefndir i’r aelodau ar
gyflwyniad yr EMRO a’r LNL, a’u bwriad i ddelio â throsedd ac anhrefn sy’n
gysylltiedig ag alcohol a helpu talu am gostau gorfodi ychwanegol a oedd yn
gysylltiedig ag eiddo sy’n agor yn hwyr. Roedd pwyntiau allweddol yn cynnwys -
ARDOLLAU HWYR Y NOS (LNL)
·
Pwerau i
awdurdodau lleol godi tâl ar safle yn gwerthu alcohol yn hwyr y nos am y costau
gorfodi ychwanegol a achosir i’r heddlu ac awdurdodau lleol
·
Pe cawsai
ei gyflwyno, byddai angen i’r Cyngor benderfynu pryd y bydd yr ardoll yn
berthnasol yn yr ardal (wedi ei gyfyngu i gyfnod rhwng hanner nos a 6.00a.m.) a
pha eithriadau a gostyngiadau a fyddai’n berthnasol
·
Byddai
angen i’r ardoll fod yn berthnasol i bob safle (oni fo categori eithrio) sy’n
gwerthu alcohol yn ystod cyfnod yr ardoll ac ni ellid ei gyfyngu i dref neu
ardal benodol
·
Ar ôl
tynnu swm gan yr awdurdod lleol am weinyddu a chyflwyno’r cynllun, rhaid anfon
o leiaf 70% o’r swm ymlaen i’r Heddlu
·
Nid oedd
yn rhaid i’r Heddlu wario eu cyfran hwy o’r ardoll mewn ardaloedd lleol lle’r
oedd wedi ei chasglu nac ar blismona a oedd yn gysylltiedig â throsedd ac
anrhefn oherwydd alcohol, er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi awgrymu y buasent
hwy yn gwario’r ardoll ar faterion trwyddedu pe cawsai ei chyflwyno
·
Manylion y
gost i safleoedd pe cawsai ei chyflwyno yn seiliedig ar werth ardrethol
·
Byddai
rhyw 175 safle yn cael eu heffeithio gan yr ardoll.
GORCHMYNION CYFYNGU BORE CYNNAR
(EMRO)
·
Byddai
EMRO yn berthnasol i drwydded safle, tystysgrif safle clwb a hysbysiadau
digwyddiad dros dro a oedd yn digwydd mewn ardal EMRO benodol
·
Roedd
angen hysbysebu’r cynnig i wneud yr EMRO ac roedd angen i awdurdodau lleol
ddangos bod ganddynt dystiolaeth i gyfiawnhau gwneud hynny ac ystyried sylwadau
cyn eu cyflwyno.
Wrth ystyried yr adroddiad, cymerodd yr aelodau y cyfle i gael esboniad ar nifer o faterion gan y swyddogion ar y pwerau newydd a oedd ar gael i wneud LNL ac EMRO. Nododd yr Aelodau bod yr ardoll wedi ei phennu ar lefel genedlaethol, a mynegasant bryderon ynglŷn â’r taliadau arwyddocaol a achosid i safleoedd ledled y sir petai’r Cyngor yn dewis cyflwyno’r ardoll, boed y safleoedd hynny wedi eu lleoli mewn ardaloedd a oedd yn achosi problemau trosedd ac anhrefn oherwydd alcohol ai peidio. Roedd y pwyllgor yn cydnabod bod busnesau eisoes yn cael anhawster yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a theimlai y byddai cyflwyno ardoll ar safleoedd trwyddedig yn debygol o achosi i lawer ohonynt fynd allan o fusnes. Roedd y Cyngor yn gweithio’n galed i adfywio ei drefi a’i gymunedau a'r economi hwyr y nos, ac ystyriai’r pwyllgor y byddai cyflwyno ardoll mor drom yn niweidio’r economi lleol ymhellach. Nodwyd bod yr heddlu o blaid cyflwyno ardoll a’r refeniw a fyddai’n deillio, a’u bod wedi awgrymu, er nad oedd gofyniad, y buasent yn gwario’r refeniw hwnnw ar faterion trwyddedu. Fodd bynnag, nododd yr aelodau na fyddai gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ddyraniad y refeniw hwnnw ac roeddynt yn bryderus y byddai’r awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu’r ardoll ac os nad oedd safle yn talu yna roedd y Cyngor yn atebol am y ffi o hyd. Mewn perthynas â chyflwyniad EMRO, teimlai’r Cadeirydd y gallent ... view the full Cofnodion text for item 11