Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 4)
4 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 166 KB
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd
ar 12 Medi 2012 (copi’n amgaeëdig).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwyntiau o gywirdeb, derbyn a chadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012.
Cywirdeb –
Tudalen 7 – Eitem 5, Adolygu Tair Trwydded –
Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyblygu Rhif y Gyrrwr, a oedd angen ei newid [Dylid
newid Rhif Gyrrwr 040298 yn (3) Atodiad 2 i Yrrwr Rhif 040448.]
Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield nad oedd
ei hymddiheuriadau am absenoldeb yn y cyfarfod diwethaf wedi eu cofnodi yn y
cofnodion.
PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir.
Ar y pwynt hwn, nododd y Cadeirydd ei fwriad i
newid trefn y rhaglen ar gyfer yr unigolion hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod
i gefnogi eu ceisiadau / adolygiadau trwydded, a gwrando ar eu hachosion hwy
cyn unrhyw fater arall.