Mater - cyfarfodydd
APPOINTMENT OF CHAMPIONS
Cyfarfod: 04/12/2012 - Cyngor Sir (Eitem 8)
Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (mae copi
ynghlwm) a oedd yn gofyn am benodi Aelodau i fod yn hyrwyddwyr drwy gydol y
tymor hwn o swydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Champions App 1, Eitem 8 PDF 58 KB
- Champions App 2, Eitem 8 PDF 67 KB
- Champions App 3, Eitem 8 PDF 39 KB
- Champions App 4, Eitem 8 PDF 87 KB
Cofnodion:
Roedd copi
o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig am benodi hyrwyddwyr, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Gofynnwyd i’r Cyngor benodi Aelodau i fod yn Hyrwyddwyr yn y meysydd canlynol yn ystod y tymor swydd hwn:-
· Hyrwyddwr Pobl Hŷn
· Hyrwyddwr Digartrefedd
· Hyrwyddwr Gofalwyr
· Hyrwyddwr Anableddau Dysgu
Roedd Llywodraeth Cymru’n gofyn bod Hyrwyddwyr yn cael eu penodi mewn meysydd penodol ac roedd y rolau a nodir uchod wedi’u cydnabod yn ffurfiol gan Gyfansoddiad y Cyngor.
Roedd rôl Hyrwyddwyr yn Sir Ddinbych wedi esblygu o benodi ‘Hyrwyddwr Pobl Hŷn’ a oedd yn deillio o’r canllawiau yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cymru, i’r sefyllfa lle dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru gael Hyrwyddwr felly. Roedd Sir Ddinbych ers hynny wedi cynyddu’r amrywiaeth o Hyrwyddwyr i feysydd eraill ac, wrth adolygu ei Chyfansoddiad, roedd wedi cydnabod yn ffurfiol, dan baragraff 2.6 o Erthygl 2, bwysigrwydd rôl Hyrwyddwyr mewn meysydd penodol a chynnwys y rôl yn y Cyfansoddiad.
Roedd y broses o benodi Hyrwyddwyr wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, a dull Sir Ddinbych oedd sicrhau bod yr Aelod mwyaf priodol yn cael ei benodi i rôl yr Hyrwyddwr priodol. Cytunwyd ar ddisgrifiad clir o rôl Hyrwyddwyr a’i fabwysiadu, ac roedd disgrifiadau drafft ar gyfer y rolau a nodwyd yn y Cyfansoddiad wedi’u cynnwys fel Atodiadau i’r adroddiad. Cymeradwywyd y rolau priodol gan y Cyngor ar 6 Tachwedd 2012, gan ofyn am gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb a CVs erbyn 16 Tachwedd 2012.
Roedd Arweinwyr Grŵp wedi mynegi eu cefnogaeth i benodi’r pedwar Hyrwyddwr a nodwyd. Roeddent hefyd yn cefnogi’r farn y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried yn fanwl a fyddai’n briodol penodi Hyrwyddwyr ar gyfer buddiannau eraill. Roedd yr Uwch Dîm Arwain wedi mynegi pryder ynghylch posibilrwydd dryswch a dyblygu rhwng rolau’r Hyrwyddwyr a’r Aelodau Lleol lle’r oedd y mater i’w hyrwyddo’n perthyn i gylch gwaith Aelod Lleol unigol.
Roedd CVs yr Aelodau etholedig canlynol a ddymunai gael eu hystyried i’w penodi wedi’u cylchredeg i’r Aelodau:-
Y Cynghorydd R.L. Feeley – Hyrwyddwr Pobl Hŷn.
Y Cynghorydd J.R. Bartley – Hyrwyddwr Anableddau Dysgu.
Y Cynghorydd J.A. Davies – Hyrwyddwr Gofalwyr.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig, am nad oedd enwebiad wedi’i gael am Hyrwyddwr Digartrefedd, y gellid cynnwys y penodiad hwn yn yr adroddiad am Ddyfodol Hyrwyddwyr a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i’w ystyried.
Ar ôl ystyried y CVs priodol:-
PENDERFYNWYD – bod y
Cyngor yn cytuno i’r penodiadau
canlynol:-
(a)
Penodi’r Cynghorydd R.L. Feeley yn Hyrwyddwr
Pobl Hŷn.
(b) Penodi’r Cynghorydd
J.A. Davies yn Hyrwyddwr Gofalwyr.
(c) Penodi’r Cynghorydd
J.R. Bartley yn Hyrwyddwr Anableddau Dysgu, a
(d) cynnwys penodiad Hyrwyddwr
Digartrefedd yn yr adroddiad i’w gyflwyno
i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am Ddyfodol Hyrwyddwyr.