Mater - cyfarfodydd
NORTH WALES STANDARDS COMMITTEE
Cyfarfod: 30/11/2012 - Pwyllgor Safonau (Eitem 9)
PWYLLGOR SAFONAU GOGLEDD CYMRU
I ystyried adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro’n nodi’r
materion a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru a
gynhaliwyd ar Hydref 4, 2012.
Cofnodion:
Esboniodd y Swyddog Monitro bod Pwyllgor
Safonau Gogledd Cymru yn darparu fforwm i Swyddogion Monitro, Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru drafod materion a oedd o
ddiddordeb iddynt oll.
Roedd y prif bynciau a drafodwyd yng nghyfarfod
diwethaf y fforwm a gynhaliwyd ar 4 Hydref yn canolbwyntio ar -
·
Ganllawiau
diwygiedig yr Ombwdsmon ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig, gan
gynnwys yr achos yn yr Uchel Lys a oedd yn gwrthdroi penderfyniad y Panel
Dyfarnu (a drafodwyd dan yr eitem flaenorol ar y rhaglen) a
·
Awdurdodau
Gogledd Cymru yn cynnal Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2013 (i’w drafod dan yr
eitem nesaf ar y rhaglen).
PENDERFYNWYD
cydnabod yr adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro ar faterion a
drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru.