Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PUBLIC SERVICES OMBUDSMAN FOR WALES REVISED GUIDANCE ON THE CODE OF CONDUCT FOR ELECTED MEMBERS

Cyfarfod: 30/11/2012 - Pwyllgor Safonau (Eitem 8)

8 CANLLAWIAU DIWYGIEDIG OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU AR GYFER AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 45 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) yn hysbysu aelodau o gyhoeddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganllawiau diwygiedig ar gyfer aelodau etholedig ynglŷn â’r Cod Ymddygiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn hysbysu’r aelodau o gyhoeddiad canllawiau diwygiedig Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer aelodau etholedig mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad. Roedd cysylltiad i’r canllawiau diwygiedig llawn ar gael i’r pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Ymhellach at ganllawiau’r Ombwdsmon ar gyfer aelodau a gyhoeddwyd yn Ebrill 2010, roedd canllawiau diwygiedig nawr wedi eu cyhoeddi mewn dwy ddogfen ar wahân ar gyfer (1) Aelodau Cynghorau Sir a Bwrdeistref Sirol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a (2) Aelodau Cynghorau Cymuned. Y rhesymeg y tu cefn i gyhoeddi canllawiau ar wahân ar gyfer Cynghorwyr Cymuned oedd er mwyn rhoi mwy o eglurder ac enghreifftiau a oedd yn benodol yn berthnasol iddynt hwy. Bu i’r Swyddog Monitro grynhoi cynnwys y canllawiau diwygiedig, a oedd yn cyfeirio at -

 

·        Y drefn newydd ar gyfer delio â chwynion, lle byddai’r Ombwdsmon yn cyfeirio materion nad oedd yn ystyried eu harchwilio at Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau i’w harchwilio’n lleol

·        Trefniadau datrys lleol (megis y Protocol Hunan-reoli a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Ddinbych) a fyddai’n berthnasol i brif gynghorau yn y lle cyntaf ond y gellid ei ryddhau i gynghorwyr cymuned maes o law, a

·        Newidiadau yn sylwedd y canllawiau yn ymwneud â thrin eraill â pharch ac ystyriaeth – y trothwy y tu hwnt i’r hwn y byddai’r Ombwdsmon yn archwilio cwynion yn deillio o ddadleuon gwleidyddol yn gorfod cymryd i ystyriaeth y ffaith bod angen i aelodau fod yn ‘fwy croendew’ wrth ddelio â sylwadau â tharddiad gwleidyddol.

 

O ran y newidiadau i archwilio cwynion â tharddiad gwleidyddol, dywedodd y Swyddog Monitro bod y canllawiau diwygiedig wedi cymryd i ystyriaeth achos yn ddiweddar yn yr Uchel Lys a oedd wedi gwrthdroi penderfyniad Panel Dyfarnu yn ddiweddar ar sail y ffaith bod rhyddid mynegiant aelod yn denu amddiffyniad uwch pan roedd ei sylwadau yn wleidyddol o ran natur. Ymhelaethodd y Swyddog Monitro ar fanylion yr achos, a dywedodd bod Swyddogion Monitro ledled Cymru yn bryderus ynglŷn  â’r agwedd a gymerwyd gan yr Ombwdsmon gan eu bod yn creu bod cywair y canllawiau bron yn oddefgar, ac nad hynny oedd y bwriad. Codwyd y pryderon hyn gyda’r Ombwdsmon a oedd wedi cytuno ailystyried y geiriad yn yr adran benodol honno yn y canllawiau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am ei ddisgrifiad eglur o’r achos yn yr Uchel Lys a goblygiadau’r canllawiau diwygiedig i’r aelodau. Teimlai’r Cynghorydd David Jones, er gwaethaf yr esboniad clir, ei fod yn fater cymhleth i’w ddehongli o hyd. Holodd y Cadeirydd a fyddai’r canllawiau diwygiedig yn arwain at waith ychwanegol i’r pwyllgor. Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd yr Ombwdsmon yn debygol o archwilio cwynion a wnaed ar lefel sirol rhwng aelodau, a fyddai yn hytrach yn cael eu trin trwy’r Protocol Hunan-reoli, a fyddai â goblygiadau i’r Pwyllgor. Meddyliai Ms. Margaret Medley y byddai cynnydd mewn achosion yn cael eu harchwilio’n lleol yn helpu gwella ymddygiad cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD cydnabod cynnwys canllawiau digwydiedig yr Ombwdsmon.