Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 30/11/2012 - Pwyllgor Safonau (Eitem 6)
6 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 103 KB
I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd
ar Fedi 14, 2012 (copi’n amgaeedig).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Safonau a gynhaliwyd ar 14 Medi 2012.
Tudalen 6 – Eitem Rhif 5, Presenoldeb mewn
Cyfarfodydd – Fel mater o esboniad, gofynnodd y Cynghorydd David Jones am gael
ychwanegu’r gair ‘cadarnhaol’ at ‘effeithiolrwydd y cadeirydd’ i adlewyrchu
cadeirio rhagorol y cyfarfod.
Tudalen 7 – Eitem Rhif 7, Digwyddiadau
Hyfforddi Cod Ymarfer – dywedodd y Cynghorydd David Jones nad oedd wedi cytuno
mynychu’r sesiynau hyfforddi ar 8 a 22 Hydref a gofynnodd am gael dileu’r
cyfeiriad hwnnw. Cadarnhaodd iddo fynychu’r tri sesiwn hyfforddi arall ond na
fyddai nawr yn debygol o fynychu’r pedwerydd sesiwn ar 5 Rhagfyr. Er budd
aelodau newydd, esboniodd y Swyddog Monitro y gofynnwyd i gynrychiolydd y
Pwyllgor Safonau fynychu pob digwyddiad hyfforddi i ddangos eu bod yn cefnogi’r
rhaglen hyfforddi. Byddai hefyd yn ddiweddariad defnyddiol i’r aelodau.
Dywedodd Mr Wayne Roberts ei fod yn barod i fynychu sesiynau 5 a 12 Rhagfyr a
chynigiodd y Cadeirydd fynychu’r sesiwn ar 20 Rhagfyr.
PENDERFYNWYD –
(a) yn
amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2012
a’u cymeradwyo fel cofnod cywir, a
(b) cytuno
a chydnabod newidiadau ym mhresenoldeb aelodau yn y digwyddiadau hyfforddi fel
y manylwyd uchod.