Mater - cyfarfodydd
ANTI-FOULING STRATEGY
Cyfarfod: 20/11/2012 - Cabinet (Eitem 8)
8 STRATEGAETH ATAL BAEDDU PDF 89 KB
I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i’r Strategaeth Atal Baeddu a’r camau nesaf fel y’u disgrifir yn y
Cynllun Gweithredu.
Dogfennau ychwanegol:
- Anti Fouling Strategy App1, Eitem 8 PDF 238 KB
- Anti Fouling Strategy App2, Eitem 8 PDF 264 KB
- Anti Fouling Strategy App3, Eitem 8 PDF 89 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn
cymeradwyo’r Strategaeth Atal Baeddu a chytuno'r camau nesaf fel y disgrifiwyd
yn y Cynllun Gweithredu (ynghlwm fel Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad, yn eu tro),
a
(b) gofyn
i swyddogion ymgymryd ag astudiaeth i addasrwydd ac effeithiolrwydd Gorchmynion
Rheoli Cŵn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd
David Smith yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r Strategaeth
Atal Baeddu a’r camau nesaf fel y’u disgrifir yn y Cynllun Gweithredu. Roedd y Strategaeth Atal Baeddu (Atodiad 1)
a’r Cynllun Gweithredu (Atodiad 2) ynghyd â chwestiynau allweddol yr aelodau
(Atodiad 3) oedd yn codi o seminar diweddar, wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Atgoffwyd yr aelodau fod cŵn yn baeddu’n broblem fawr i drigolion a bod y Strategaeth wedi’i pharatoi
mewn ymateb i’r broblem. Eglurodd y Cynghorydd
Smith y tri phrif faes a nodwyd yn y Strategaeth oedd wedi cael Pennaeth
Gwasanaeth arbennig -
·
Cyfathrebu
a Marchnata– Jamie Groves
·
Trefniadau
Casglu – Steve Parker
·
Gorfodi –
Graham Boase
Roedd gan bob maes gynllun
gweithredu i sicrhau cyflenwi effeithlon o fewn amserlenni priodol ac y byddai
effaith y Strategaeth yn cael ei fesur yn erbyn dangosyddion i werthuso
effeithiolrwydd. Cyfeiriwyd hefyd at XFOR,
y cwmni â’r contract i weithredu gorfodaeth amgylcheddol gan gynnwys cwn yn
baeddu.
Mynegodd y Cynghorydd
Bobby Feeley bryder bod gweddillion baw cŵn yn cael eu gadael er
gwaethaf gwaredu gofalus a gofynnodd a ellid ystyried gwahardd cŵn o rai mannau penodol fel meysydd chwarae.
Ymatebodd y Cynghorydd David Smith gan ddweud bod Gorchmynion Rheoli Cŵn yn cael eu hystyried fel mater ar wahân i’r Strategaeth. Nid oedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn
cefnogi gweithredu mannau rheoli cŵn oherwydd bod gan
berchnogion cŵn ddyletswydd i ymarfer eu cŵn ac mai dim ond mewn rhai mannau y gallen nhw wneud hyn yn ddiogel. Yn ystod trafodaeth fer, dywedodd y Pennaeth
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (H:P&P) am gyfreithlondeb Gorchmynion Rheoli
Cŵn ac amlygodd yr angen am adolygiad ac ymgynghoriad
cynhwysfawr er mwyn penderfynu ar fesurau rheoli o fewn y sir.
Croesawodd y Cabinet y
Strategaeth fel modd o ddelio â’r broblem o gŵn yn baeddu o fewn y sir a chymeradwyodd y fenter. Gobeithiai’r Arweinydd am fwy o fanylion
penodol o fewn y ddogfen honno a theimlai efallai y byddai seminar arall i
aelodau’n ddefnyddiol. Amlygodd y
Cynghorydd Joan Butterfield brif ardaloedd y problemau sef Brickfield Pond a
Marine Lake a gofynnodd am sicrhau y byddai XFOR yn canolbwyntio nid yn unig ar
dargedau hawdd ond ar fannau problemau anodd.
Adroddodd yr H:P&PP am waith y XFOR wrth fynd i’r afael â’r broblem
o gŵn yn baeddu gan gadarnhau eu bod wedi’u cyfarwyddo
i fod yn weledol ym mhob cymuned ac nid mewn ardaloedd hawdd yn unig. Pwysleisiodd y Cynghorydd Arwel Roberts yr
angen am orfodi’r Gorchmynion Rheoli Cŵn oedd yn cael eu torri
yng Nghaeau Chwarae Rhuddlan. O safbwynt
cyfathrebu, amlygodd y Cynghorydd Roberts yr angen am gyfieithiadau cywir a
chyswllt priodol gyda Chynghorau Tref a Chymuned.
Gofynnodd y Cynghorydd
David Smith i aelodau ei hysbysu am unrhyw ardal broblem arbennig oedd angen ei
thargedu. Cynigiodd yr argymhellion o
fewn yr adroddiad a chynigiodd gwelliant y dylid hefyd cynnal astudiaeth i mewn
i Orchmynion Rheoli Cwn.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet
–
(a) yn cymeradwyo’r Strategaeth
Atal Baeddu ac yn cytuno ar y camau nesaf fel y disgrifiwyd yn y Cynllun
Gweithredu (atodedig fel Atodiad 1 a 2 i’r adroddiad), a’u bod yn
(b) gofyn i swyddogion gynnal
astudiaeth i addasrwydd ac effeithlonrwydd Gorchmynion Rheoli Cŵn.