Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF PRIMARY SCHOOL PROVISION IN THE RUTHIN AREA

Cyfarfod: 20/11/2012 - Cabinet (Eitem 6)

6 ADOLYGIAD O DDARPARIAETH GYNRADD YN ARDAL RHUTHUN pdf eicon PDF 103 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, yr Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i adolygiad darpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo adolygiad o ddarpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ym mis Chwefror 2013.  

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r arolwg o ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a dechrau ymgynghoriad gwybodaeth.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Williams ei sylwadau blaenorol am adolygiad systematig o ddarpariaeth addysgol o fewn y sir a’r angen am ddarparu’r addysg orau bosibl.  Eglurodd ymhellach rai o’r adolygiadau blaenorol a gynhaliwyd a’r penderfyniadau anodd a wnaed i sicrhau darpariaeth addysg safonol.  Eglurwyd hefyd cyd-destun adolygu ysgolion a darpariaeth addysg ac amlygwyd bod rhai elfennau ariannu yn ddibynnol ar gynghorau’n rheoli’r broses yn effeithiol ac yn mynd i’r afael â phroblemau fel gormod o leoedd.   Roedd manylion y prif broblemau sy’n wynebu ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun o fewn yr adroddiad a chynigiwyd y byddai’r adolygiad yn edrych yn fanwl i ddechrau ar un ar ddeg o ysgolion cynradd (rhestr yn yr adroddiad) ac yn ystyried pob opsiwn ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.  Roedd y Cynghorydd Williams yn awyddus i bwysleisio nad oedd unrhyw benderfyniad nac argymhelliad wedi’i wneud hyd yn hyn heblaw i gymeradwyo dechrau’r broses adolygu ac ymgynghori.

 

Croesawodd Cynghorwyr Rhuthun David Smith a Bobby Feeley yr adolygiad i fynd i’r afael â’r problemau oedd yn wynebu ysgolion Rhuthun ac i sicrhau addysg a chyfleusterau safonol i ddisgyblion.  Trafododd y Cabinet gymhlethdodau’r broses a chyflwynodd y Cynghorydd Williams enghreifftiau o ddatblygiadau a mentrau mewn ysgolion eraill gan amlygu’r ddibyniaeth ar ariannu cyfatebol i barhau â’r gwaith hwnnw a’r pwysau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblemau arbennig er mwyn cael arian.  Manteisiodd y Cabinet ac aelodau lleyg ar y cyfle i godi cwestiynau a thrafod nifer o faterion gyda’r Cynghorydd Williams a’r swyddogion fel a ganlyn -

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Jones, dywedodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (H:C&ES) am wersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol o safbwynt sut cynhaliwyd yr arolwg; ei weithredu a’r deilliannau i ddisgyblion.

·        Cadarnhaodd yr H:C&EC fod ei thîm yn gweithio’n agos gyda swyddogion sy’n gweithio ar y Cynllun Datblygu Lleol er mwyn rhagweld unrhyw dwf yn nifer y disgyblion o ganlyniad i ddatblygiadau tai.

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams at gau’r ysgol yn dilyn arolwg o ardal Edeyrnion a gofynnodd am sicrwydd mai hyn fyddai’r cam eithaf mewn arolygon y dyfodol, yn arbennig o gofio’r effaith ar gymunedau. Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams sicrwydd y byddai pob opsiwn yn cael ei ystyried yn ofalus ac eglurodd arolwg Edeyrnion a’r penderfyniad anodd a wnaed i gau’r ysgol er budd darparu’r addysg orau bosibl i’r disgyblion.

·        Mynegodd y Cynghorydd Alice Jones ei phryderon am yr effaith gwael yr oedd cau ysgolion yn ei gael ar gymunedau gwledig a rhybuddiodd yn erbyn canoli ysgolion yn Rhuthun. Yn lle hynny, awgrymodd y gellid cludo disgyblion o Ruthun i ysgolion gwledig.  Awgrymodd fod cynllun ar gael yn barod am gau ysgolion beth bynnag yr ymgynghoriad. Rhoddodd y Cynghorwyr Hugh Evans a Eryl Williams sicrwydd nad oedd unrhyw gynllun wedi’i baratoi ac y byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn hysbysu camau’r dyfodol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Williams y byddai’r broses yn dryloyw ac y bydden nhw’n ymateb i bob sylw ac yn gwneud penderfyniad cytbwys.  Nid oedd yr adolygiad yn ymwneud â chau ysgolion ond yn sicrhau’r nifer cywir o ysgolion yn y lle cywir gyda chynaladwyedd ar gyfer y dyfodol.  Ni fyddai’n briodol ymateb i’r sylw am gludo disgyblion oherwydd y gallai ragfarnu argymhelliad posibl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Williams ei argymhelliad yn unol â’r manylion yn yr adroddiad

  

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r arolwg o ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a dechrau ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ym mis Chwefror 2013.