Mater - cyfarfodydd
WALES AUDIT OFFICE - IMPROVEMENT ASSESSMENT OF DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL
Cyfarfod: 29/11/2012 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 6)
6 LLYTHYR GWELLA CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 73 KB
Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwelliannau
Corfforaethol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Llythyr Asesu Gwelliannau ar gyfer
Cyngor Sir Ddinbych, a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).
10.05
a.m.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol wedi ei ddosbarthu
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol
yr adroddiad, a oedd yn cyflwyno’r Llythyr Asesu Gwelliannau ar gyfer Cyngor
Sir Ddinbych, Atodiad 1, a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar 17eg
Medi, 2012.
Roedd y llythyr yn un o’r adroddiadau rheoleiddio allanol allweddol a
dderbynnid gan y Cyngor bob blwyddyn, a byddai’n caniatáu i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad ymgymryd â’r swyddogaeth rheoli perfformiad.
Yr Asesiad Gwella oedd y prif
fecanwaith ar gyfer SAC i adrodd ar ei asesiad o berfformiad y Cyngor a’r
rhagolygon ar gyfer gwella. Er nad oedd argymhellion ffurfiol yn y llythyr,
rhoddwyd cyfle i’r Aelodau drafod y mater er mwyn penderfynu os oedd unrhyw
agweddau penodol o berfformiad a grybwyllwyd yn y llythyr angen craffu pellach.
Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys y Llythyr Asesu Gwelliannau nesaf, i’w
anfon gan SAC cyn diwedd Tachwedd 2012,
ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor i’w ystyried ar 10fed Ionawr 2013.
Rhoddodd Mr Gwilym Bury, y
cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru, grynodeb o’r manylion yn y llythyr ac
amlygu’r cynigion ar gyfer gwella a wnaed yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol 2012. Cyfeiriodd yn benodol at y gwaith i’w wneud
ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, a pherthnasedd yr Adolygiad Strategol
mewn perthynas â chynllun cyflawni y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Esboniodd mai elfen allweddol o’r
wybodaeth a ystyriwyd gan SAC oedd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â
chyflawni’r blaenoriaethau yn ei Gynllun Corfforaethol. Roedd angen i SAC
asesu’n ffurfiol Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor a’i Gynllun
Corfforaethol. Nid oedd y naill ddogfen na’r llall wedi bod ar gael i’w hasesu
cyn cyhoeddi’r Llythyr Asesu Gwelliannau, gan fod fersiynau drafft y ddwy
ddogfen wedi eu trafod a’u cymeradwyo gan y Cyngor ar 9fed Hydref, 2012. Byddai SAC felly’n cynnwys arfarniad o’r ddwy
ddogfen yn ei Lythyr Diweddaru Asesiad Gwelliannau a oedd i’w gyhoeddi cyn
diwedd mis Tachwedd, 2012.
Esboniodd Mr Bury bod SAC wedi ymgymryd â nifer o gyfweliadau gyda
swyddogion perthnasol ac aelodau etholedig cyn drafftio’r Llythyr Asesu
Gwelliannau. Roedd yr adroddiad drafft wedi ei rannu gyda’r Cyngor, a gofynnwyd
am adborth cyn cyhoeddi.
Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau ar yr asesiad
cadarnhaol yn y llythyr ac ar ôl trafodaeth bellach, fe:-
BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad:-
(a)
Yn derbyn a chydnabod cynnwys y Llythyr Asesu Gwelliannau, a
(b) Yn cytuno bod Llythyr Asesu
Gwelliannau nesaf SAC yn cael ei gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar
gyfer 10fed Ionawr 2013.