Mater - cyfarfodydd
YOUR VOICE COMPLAINTS PERFORMANCE - QUARTER 2
Cyfarfod: 29/11/2012 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 7)
7 SAFONAU PERFFORMIAD A DDATGELWYD TRWY’R BROSES GWYNION PDF 74 KB
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi
ynghlwm) yn cyflwyno dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd trwy bolisi adborth
‘Eich Llais’ Sir Ddinbych ar gyfer Chwarter 2 2012/13.
10.45
a.m.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Swddog Cwynion Corfforaethol wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr
Cysylltiadau Cwsmeriaid yr adroddiad, a oedd yn cyflwyno dadansoddiad o’r
adborth a dderbyniwyd trwy bolisi adborth y Cyngor ‘Eich Llais’ ar gyfer
Chwarter 2 2012/13.
Rhoddodd y Swyddog Cwynion Corfforaethol grynodeb o’r adroddiad a oedd yn nodi
meysydd allweddol fel y manylir isod:-
Uchafbwyntiau – Roedd amser
ymateb y Cyngor i gwynion o fewn amserlenni ‘Eich Llais’ yn Chwarter 2 i lawr o
91% i 87% yn y chwarter blaenorol ac yn parhau i fod yn is na’r targed
corfforaethol o 95%.
Amserau ymateb i gwynion – Er bod
perfformiad cyffredinol y Cyngor wedi gostwng, roedd nifer o bwyntiau i’w
nodi.
·
Roedd nifer o gwynion wedi eu dyrannu’n anghywir i wasanaethau a’i
hailddyrannu dan bennawd ‘Arall’. Roedd hyn wedi effeithio’r ffigurau
perfformiad cyffredinol gan fod y cwynion hyn wedi eu trin y tu allan i’r
amserau targed.
·
Roedd Gwasanaethau Tai wedi ‘sefydlogi’ eu perfformiad ar ôl ad-drefnu.
·
Roedd Gwasanaethau’r Amgylchedd wedi parhau i berfformio’n dda er
gwaethaf cael y nifer fwyaf o gwynion. Nid oedd eu perfformiad wedi dioddef yn
arwyddocaol er gwaethaf cynnydd 69% mewn cwynion a dderbyniwyd yn ystod y
chwarter.
·
Roedd nifer cwynion Priffyrdd wedi cynyddu 38% yn y chwarter. Fodd
bynnag, dim ond gan ychydig yr oedd perfformiad wedi gostwng.
·
Dywedwyd bod cwynion Cyfnod 1 yn ymwneud â methiant i ymateb o fewn yr
amserlenni cydnabyddedig, gydag 87% o gwynion Cyfnod 1 wedi cael ymateb o fewn
yr amserlen briodol.
Gwella perfformiad – Y nod
corfforaethol oedd ymateb i o leiaf 95% o’r cwynion o fewn yr amserlen a
benwyd. Y prif faes pryder oedd ymateb i gwynion Cyfnod 1 y tu allan i’r
amserlen 10 diwrnod gwaith. Cynhaliwyd cyfarfod gyda swyddogion cwynion a
pherfformiad y gwasanaethau ym mis Tachwedd i ategu ymhellach yr agwedd hon o
berfformiad, ac un amcan fyddai canfod pam nad oedd cwynion yn cael ymateb o
fewn yr amserlen briodol. Byddai canfyddiadau’r cyfarfod hwnnw yn cynorthwyo
gyda llunio cynllun gweithredu i wella’r agwedd hon o drin cwynion, gyda’r
canlyniadau’n cael eu bwydo yn ôl i’r Pwyllgor pan gyflwynir yr adroddiad nesaf
ym mis Chwefror. Cyflwynwyd adroddiad misol ym mis Medi ar gyfer cyfarfodydd yr
Uwch Dîm Arwain, yn amlygu perfformiad mewn perthynas ag ymateb i gwynion.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd A. Roberts, cadarnhaodd y Swyddog Cwynion
Corfforaethol y dylid cyfeirio pob cwyn a dderbynnir trwy’r system Rheoli
Cysylltiadau Cwsmeriaid.
Ymatebodd
y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies a
rhoi amlinelliad o sut roedd yr amserlen mewn perthynas ag amser ymateb i
gwynion wedi ei phennu. Cadarnhaodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o
bryd i fabwysiadu polisi dau gyfnod yn unol â chyngor yr Ombwdsmon Llywodraeth
Leol. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd D Owens, esboniwyd, yn
dibynnu ar natur y gŵyn, y gellid ymateb mewn llai o amser. Mewn achosion
lle na ellid glynu at yr amserlen benodol byddai’r cwsmeriaid yn cael eu
hysbysu o hynny.
Ar
ôl trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn derbyn yr
adroddiad ac yn cydnabod perfformiad gwasanaethau.