Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Waith Archwilio
Cyfarfod: 29/11/2012 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 10)
10 RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 80 KB
Ystyried adroddiad gan y Cyd-gysylltydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y Pwyllgor ac yn diweddaru’r
Aelodau ar faterion perthnasol.
12.15 p.m.
Dogfennau ychwanegol:
- FWP - Perf FWP, Eitem 10
PDF 91 KB
- FWP - Cabinet FWP, Eitem 10
PDF 55 KB
- FWP Info Rep, Eitem 10
PDF 201 KB
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd
Craffu, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ei Flaenraglen Waith,
wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o Flaenraglen
Waith y Cabinet wedi ei gynnwys fel Atodiad 2 i’r adroddiad.
Ystyriodd y Pwyllgor ei raglen
waith ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, fel y manylwyd yn Atodiad 1, a
chytunwyd y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-
10fed Ionawr, 2013:- Llythyr Asesu
Gwelliannau Swyddfa Archwilio Cymru
21ain Chwefror 2013:- Cofrestr
Risgiau Corfforaethol. Cytunodd yr Aelodau bod cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad yn cychwyn am 10.00a.m., gyda sesiwn briffio ar y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol yn cychwyn am 9.30 a.m.
Esboniodd y Rheolwr
Gwelliannau Corfforaethol bod trefniadau ar y gweill i ad-drefnu’r cyfarfodydd
Herio Gwasanaeth a oedd wedi eu canslo oherwydd y tywydd gwael.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr
adroddiad gwybodaeth a ddosbarthwyd mewn perthynas â Fformiwla Ariannu Ysgolion.
Cytunodd yr Aelodau bod y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â’r
Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau i gyflwyno tabl yn dangos yr elfennau diwygiedig
yn y fformiwla ariannu a’r effaith ar ysgolion unigol yn y Sir.
Cytunodd yr Aelodau bod materion a
godwyd gan y Cynghorwyr A Roberts ac M Ll Davies yn eu tro ar y problemau yn
cyflwyno’r cynllun biniau ar olwynion x2, a defnyddio dyfeisiau arbed ar
gerbydau, fel y dangoswyd yn sesiynau hyfforddi Rheoli’r Fflyd, yn cael eu
cyflwyno’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion er mwyn ystyried cynnwys y
materion ar Flaenraglen Waith y Pwyllgorau Craffu priodol. Esboniodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod y darparwyr
gwasanaeth wedi cydnabod y gellid bod wedi cael cyflwyniad mwy llwyddiannus i’r
cynllun biniau ar olwynion x2 yn ne’r Sir. Cadarnhaodd eu bod ar hyn o bryd yn
dadansoddi ac yn craffu ar y broses a fabwysiadwyd, gyda golwg ar wella
trefniadau i’r dyfodol, a byddant yn barod i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Craffu
priodol i rannu manylion y gwaith a wnaed.
Mewn ymateb i gais gan y
Cynghorydd D. Owens i gael cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â Choleg Glannau
Dyfrdwy, yn yr adroddiad yn ymwneud â Chanlyniadau a Llwyddiannau mewn
Arholiadau Allanol i Fyfyrwyr Sir Ddinbych yng Ngoleg Llandrillo, cytunodd y
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd gysylltu gyda Chydgysylltydd y Rhwydwaith
14-19 ar y posibilrwydd o gael yr wybodaeth.
PENDERFYNWYD:-
(a) yn amodol ar y newidiadau a’r
cytundebau uchod, cymeradwyo’r Flaenraglen Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r
adroddiad.
(b) Bod
y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â’r Rheolwr Cynllunio ac
Adnoddau i ddarparu tabl yn dangos yr elfennau diwygiedig yn y fformiwla
ariannu a’r effaith ar ysgolion unigol yn y Sir.
(c)
Bod problemau a gafwyd mewn
perthynas â chyflwyno’r cynllun biniau ar olwynion x2 a defnyddio dyfeisiau arbed
ar gerbydau yn cael eu cyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys ar Flaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu
priodol, a
(d)
Bod y Swyddog Gwasanaethau
Democrataidd yn cysylltu â Chyd-gysylltydd y Rhwydwaith 14-19 ynglŷn â’r
posibilrwydd o gael gwybodaeth ar Ganlyniadau a Llwyddiannau Myfyrwyr Sir
Ddinbych mewn Arholiadau Allanol yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.