Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 29/11/2012 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 4)
4 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 214 KB
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar 18fed Hydref, 2012 (copi’n amgaeëdig).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar ddydd Iau 18fed Hydref 2012.
Materion yn codi:-
Fformiwla Ariannu Ysgolion Sir Ddinbych – mynegodd y
Cynghorydd H Hilditch-Roberts bryder nad oedd y cofnodion wedi nodi iddo gyflwyno’r
pedwar cwestiwn cyntaf dan ymatebion i gwestiynau a materion a godwyd gan
Aelodau.
Esboniodd y Cynghorydd A. Roberts bod Bwrdd y
Llywodraethwyr yn Ysgol Y Castell, Rhuddlan wedi mynegi pryder, ar ôl y gwaith
caled a’r gwelliannau i gydbwyso cyllideb yr ysgol, y byddai’r newidiadau
arfaethedig i’r Fformiwla Ariannu Ysgolion yn newid y meini prawf i anfantais
ariannol yr ysgol, ac nad oedd Bwrdd y Llywodraethwyr yn fodlon gyda lefel yr
ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod,
derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir.