Mater - cyfarfodydd
SAFEGUARDING ARRANGEMENTS FOR CHILDREN AND YOUNG PEOPLE
Cyfarfod: 08/11/2012 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 7)
7 CYNLLUN GWEITHREDU DIOGELU AR ÔL SIR BENFRO PDF 92 KB
Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (copi ynghlwm) a
oedd yn amlinellu Cynllun Gweithredu Diogelu Plant yn dilyn adroddiad Sir
Benfro.
10.55
a.m.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd
copi o gyd-adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, yn amlinellu Cynllun Gweithredu ar ôl
Sir Benfro, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid at fater diogelu plant a’r cyhoeddusrwydd arwyddocaol
yn ymwneud ag achosion Jimmy Savile a Bryn Estyn. Cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn amlinellu
canfyddiadau cyd-archwiliad AGGCC ac Estyn mewn perthynas â thrin a rheoli
honiadau o gamdriniaeth broffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac
amddiffyn plant yn y gwasanaethau addysg yn Sir Benfro. Nododd yr adroddiad
fethiannau arwyddocaol gan yr Awdurdod o ran diogelu plant a chyflwynodd gyfres
o ofynion. Roedd Cyd-adolygiad wedi ei wneud i ystyried cynnydd a gwneud
argymhellion pellach. Roedd yr adroddiadau hyn yn nodi methiannau ac yn gwneud
argymhellion yn y meysydd canlynol:-
Recriwtio
Cadw cofnodion
Prosesau, polisïau a gweithdrefnau
Hyfforddiant
Adrodd a chraffu
Roedd materion penodol eraill wedi eu hamlygu wedyn a oedd yn
ymwneud ag ystafelloedd “seibiant” yn ysgolion Sir Benfro, ac esboniwyd bod gan
Sir Ddinbych bolisi cyffredin mewn ysgolion uwchradd ar ‘Ddefnyddio Grym
Rhesymol ac Ymyriad Corfforol Cyfyngol’. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan
y Cynghorydd E.A. Jones, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid bod
y polisi wedi ei anfon at ysgolion uwchradd gyda’r nod bod y polisi, neu
fersiwn derbyniol ohono, yn cael ei fabwysiadu gan holl gyrff llywodraethol
ysgolion uwchradd erbyn y Pasg 2013. Cadarnhaodd mai cyfrifoldeb yr ysgolion
fyddai sicrhau bod ganddynt fersiwn derbyniol a gytunwyd o’r polisi. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol amlinelliad o bwrpas a defnydd ystafelloedd
“seibiant” yn ysgolion Sir Ddinbych a rhoddodd sicrhad bod disgyblion yn cael
eu goruchwylio wrth ddefnyddio
cyfleusterau’r ystafelloedd “seibiant”.
Roedd yr arfer yn Sir Ddinbych ac Awdurdodau eraill yng Nghymru wedi
eu harchwilio a’u hadolygu mewn perthynas â chanfyddiadau ac argymhellion y
ddau adroddiad, ac roedd camau i wella wedi eu hychwanegu at Gynllun Gweithredu
Diogelu, Atodiad 1 i alluogi monitro cynnydd yn gorfforaethol.
Roedd yr adroddiad yn manylu'r camau a gymerwyd gan Sir Ddinbych
mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygiaeth yn Sir Benfro ac roedd yn rhoi
gwybodaeth ar weithredu camau yn y Cynllun Camau Diogelu Corfforaethol i
fonitro cynnydd. Roedd yn arfarnu trefniadau craffu Bwrdd Diogelu Plant Lleol
Conwy a Sir Ddinbych ac yn delio â materion mwy cyffredinol ynghyd â phwyntiau
polisi a gweithdrefn. Esboniodd bod rhai materion a godwyd yn y Cynllun
Gweithredu Diogelu yn well o gael eu trin gan y Bwrdd Diogelu Lleol, ac roedd y
strwythur ar gyfer craffu ar drefniadau diogelu wedi ei amlinellu.
Roedd Cynllun Gweithredu Diogelu Sir Ddinbych wedi ei ddatblygu wrth
i faterion eraill godi neu gael eu codi yn genedlaethol, gyda chynnydd yn cael
ei yrru trwy’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Nid oedd y
trefniadau wedi disodli rhai’r Bwrdd Diogelu Lleol ond roeddynt wedi eu dylunio
i sicrhau ffocws priodol ar Sir Ddinbych fel cyfundrefn gorfforaethol gymhleth
aml-swyddogaethol.
Roedd nifer o bwyntiau a meysydd
allweddol wedi eu hamlygu yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag:
·
Archwiliadau CRB/geirda a Pholisïau AD ynghyd â chyrff Diogelu a Thrydydd
Sector.
·
Polisïau a Gweithdrefnau Diogelu.
·
Camau cyflogaeth.
·
Llywodraethwyr ysgol.
·
Adrodd i Fwrdd Lleol Diogelu Plant.
·
Rhestr Wirio Archwilio Diogelu Ysgolion.
·
Llywodraethwyr Ysgol gyda chyfrifoldeb am ddiogelu.
·
Ymyraethau Cyfyngol / Ystafelloedd Seibiant mewn Ysgolion / Sefydliadau.
Mewn perthynas ag Archwiliadau CRB, Geirda a Pholisïau AD ynghyd â Diogelu a cyrff Trydydd Sector, cadarnhawyd bod archwiliadau CRB yn cael eu gwneud yn gyson gan Sir Ddinbych, gan gynnwys gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio’n uniongyrchol â phlant, ac roedd cynnydd manwl ar y gwaith hwn wedi ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu. Cyfeiriwyd at effaith Deddf Amddiffyn ... view the full Cofnodion text for item 7