Mater - cyfarfodydd
JOINT OUT OF HOURS EMERGENCY DUTY SERVICE
Cyfarfod: 08/11/2012 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 6)
6 CYD-WASANAETH DYLETSWYDD MEWN ARGYFWNG Y TU ALLAN I ORIAU ARFEROL PDF 114 KB
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
(copi ynghlwm) a oedd yn amlinellu cynnydd Tîm Dyletswydd Argyfwng
Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWEDT).
10.10 a.m.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, yn amlinellu
cynnydd Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWEDT), wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Oedolion a Busnes yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar y
datblygiadau yn y gwasanaeth NEWEDT, yn enwedig mewn
perthynas â’r canlynol:-
·
Adborth o weithdy a gynhaliwyd
i Adolygu Model Gweithredol y Gwasanaeth.
·
Cais gan Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy i ddod yn aelod o’r NEWEDT.
·
Gwybodaeth a Systemau.
·
Adolygiad o Ganlyniadau
Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad 2011-12
·
Amcanion Gwasanaeth Allweddol
2012-13.
Roedd NEWEDT yn cynnig gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn argyfwng,
wedi ei leoli a’i reoli yn Wrecsam, ar gyfer Siroedd Wrecsam, Sir y Fflint a
Sir Ddinbych yn ystod yr oriau pan roedd gwasanaethau prif ffrwd ar gau.
Esboniwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud cais i ddod yn Bartner
yn y NEWEDT. Roedd ffocws yr adolygiad o
Fodel Cyflawni Gweithredol y Gwasanaeth wedi ymgorffori strategaeth y
gwasanaeth; trefniadau llywodraethu; strwythur cyfundrefnol ac atebolrwydd
rheoli, gan gynnwys ystyried arbedion effeithlonrwydd posibl. Roedd pwyntiau
gweithredu a adnabuwyd gan yr adolygiad wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn
mynd rhagddynt.
Ar ôl cytundeb gan Fwrdd Rheoli Gweithredol y Bartneriaeth, roedd
Ymgynghorydd wedi ei gyfweld a’i gomisiynu i gwblhau achos busnes ar ran yr
Awdurdodau Partner, a’r prif ffocws oedd ymarferoldeb cynnig i wneud y Bartneriaeth
bresennol yn fwy a dadansoddiad risg trwyadl.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion ar Wybodaeth a Systemau,
Adolygiad o Ganlyniadau Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad, Data
Perfformiad, Amcanion Gwasanaeth Allweddol 2012 -13 ac amlinelliad o’r broses
Ymgynghorol.
Mewn ateb i gwestiwn ar
amserau ymateb a’r pellter a deithir i fynd i argyfwng, cadarnhaodd
Cydgysylltydd Rhanbarthol y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng mai 45 munud fyddai’r
amser mwyaf i ymateb yn y Sir. Fodd bynnag, ymgymerwyd â gwaith gyda nifer o
Asiantaethau eraill a oedd yn darparu cymorth os oedd ei angen. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod amserau ymateb mewn perthynas â
Meddygon yn gweithredu dan Adran 12 Deddf Iechyd Meddwl 1983 nawr wedi gwella.
Amlygodd y Cynghorydd E.A.
Jones agwedd cydraddoldeb y broses a phwysigrwydd sicrhau amddiffyn hawliau
pobl sy’n agored i niwed. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes
bod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu’r gwasanaeth. Hefyd, rhoddodd
amlinelliad o’r broses a fabwysiadwyd, y gellid, os oedd angen, ei chyflwyno
mewn ieithoedd eraill.
Hysbyswyd y Pwyllgor o
drefniadau’r gwasanaeth argyfwng ar gyfer cyfnod y Nadolig, manylion yr hwn a
oedd wedi eu cynnwys ar y rhyngrwyd, a chytunwyd bod y rhif argyfwng yn cael ei
ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd J.A. Davies, darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes
fanylion darparu hyfforddiant i aelodau staff, gyda chyfeiriad penodol at
ddarparu hyfforddiant i sicrhau hod staff yn adnabod problemau sy’n
gysylltiedig â iechyd meddwl.
Ymatebodd y Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Butterfield a rhoddodd
fanylion y broses o fabwysiadwyd ar gyfer delio â materion, pryderon ac
argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.
Ar ôl trafodaeth fer, fe:-
BENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau:-
(a) Yn derbyn a chydnabod
cynnwys yr adroddiad, a
(b)
Bod y rhif ffôn argyfwng yn
cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.