Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROTECTION OF VULNERABLE ADULTS

Cyfarfod: 08/11/2012 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 5)

5 ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 111 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) o ran perfformiad blynyddol ynglŷn ag Amddiffyn Oedolion mewn cydymffurfiad â Chanllawiau Statudol.     

                                                                                                           9.35 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles yn ymwneud â pherfformiad blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn cydymffurfio â Chanllawiau Statudol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i alluogi adolygiad o’r cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf, ac yn sicrhau bod gofynion polisi amddiffyn oedolion yn rhan o agwedd gyffredinol y gyfundrefn tuag at ddarparu a datblygu’r gwasanaeth.

 

Y ddogfen bolisi allweddol mewn Amddiffyn Oedolion ar gyfer Sir Ddinbych oedd Polisi a Chanllawiau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, a oedd yn seiliedig ar y canllawiau â gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ‘Mewn Dwylo Diogel’. Roedd Fforwm Gogledd Cymru yn monitro datblygiadau i scrhau eu bod wedi eu hymgorffori mewn arferion presennol. Roedd ‘Mewn Dwylo Diogel’ yn amlygu cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol wrth gymryd y rôl arweiniol yn y broses. 

 

Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes grynhoi cynnwys yr adroddiad, a oedd yn cynnwys materion allweddol a meysydd gweithgaredd yn ymwneud ag Amddiffyn Oedolion 2010/11, Hyfforddiant a ddarparwyd gan Sir Ddinbych mewn perthynas ag amddiffyn oedolion, Dangosyddion Perfformiad a Chynllun Gweithredu Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA). Roedd datblygiadau diweddar yn cynnwys:

 

·        Ymgynghori ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth 2012.

·        Ystyried y posibilrwydd o gael Cyd-bwyllgor Amddiffyn Oedolion gyda Chonwy.

·        Arolwg Achos Difrifol a ymgymerwyd mewn perthynas ag achos dynes oedrannus a lofruddiwyd gan ei gŵr.

·        Grŵp Gorchwyl a Gorffen a oedd ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau i argymell model ar gyfer rheoli gwaith diogelu oedolion yn Sir Ddinbych yn y dyfodol.

·        Datblygu Cynllun Gweithredu gan Bwyllgor Amddiffyn Oedolion Sir Ddinbych.

 

Roedd yr Atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys peth o’r data allweddol ar gyfer gwaith amddiffyn oedolion agored i niwed yn Sir Ddinbych yn ystod y flwyddyn. Derbyniodd Sir Ddinbych 244 atgyfeiriad er bod llawer o achosion yn parhau ac roedd casglu data yn anghyflawn.

 

            Atodiad 1 – dangos y grwpiau a effeithiwyd gan gamdriniaeth.

            Atodiad 2 – dangos y mathau o gamdriniaeth yr oedd pobl yn ei dioddef.

            Atodiad 3 – manylu lle’r oedd y gamdriniaeth wedi digwydd.

            Atodiad 4 – adnabod y bobl yr honnwyd eu bod yn gyfrifol am gamdrin.

            Atodiad 5 – dangos statws honiadau.

            Atodiad 6 – dangos y canlyniad i’r dioddefwr honedig.

            Atodiad 7 – dangos y canlyniad i’r un a oedd yn camdrin.

           

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd J.A. Davies ar yr angen i ddarparu llinell ofal gyfrinachol i oedolion. Esboniodd bod taflenni a ddosbarthwyd ar ran Fforwm Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys rhif ffôn anghywir wedi cael eu galw’n ôl lle bo modd, ac roedd rhif ffôn arall wedi ei roddi allan ac wedi ei restru ar eu gwefan. Cytunodd yr Aelodau y dylid ystyried y posibilrwydd o ddarparu llinell ofal i oedolion, ynghyd â manylion y costau dan sylw, yn cael ei archwilio. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Butterfield, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fanylion y Cynlluniau Byw yn y Gymuned a oedd yn rhedeg yn Sir Ddinbych a chytunodd ystyried y posibilrwydd bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu priodol yn ymweld â detholiad o’r cynlluniau a oedd yn rhedeg ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd J R Bartley at Atodiad 3 yr adroddiad a mynegodd bryder ynglŷn â sgiliau’r heddlu a oedd yn delio â dioddefwyr gydag anabledd dysgu. Amlinellwyd manylion y cysylltiadau rhwng Uned Gwarchod y Cyhoedd a POVA, gan roddi sylw penodol at bresenoldeb yr Heddlu ar y Pwyllgor Diogelu Oedolion. Rhoddwyd cadarnhad bod yr Heddlu yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5