Mater - cyfarfodydd
APPOINTMENTS OF COUNCILLORS TO OUTSIDE BODIES
Cyfarfod: 23/10/2012 - Cabinet (Eitem 8)
8 PENODI CYNGHORWYR I GYRFF ALLANOL PDF 75 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor (copi ynghlwm. Atodiad 1 i ddilyn) i’r Cabinet benderfynu pa gyrff allanol y mae’r Cyngor i benodi aelodau iddynt fel cynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych. Hefyd cymeradwyo penodiadau i’r cyrff.
Dogfennau ychwanegol:
- Cabinet Report - List 1, Eitem 8 PDF 16 KB
- Cabinet Report - List 2, Eitem 8 PDF 18 KB
- Cabinet Report - No Appointments Recommended, Eitem 8 PDF 74 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD ar ôl
i’r Cabinet ystyried Rhestr 1 (cyrff allanol lle’r ystyrir
bod cynrychiolaeth Sir Ddinbych yn hanfodol
neu’n gorfforaethol-fanteisiol)
a Rhestr 2 (cyrff eraill y gellid penodi cynrychiolwyr Sir Ddinbych iddynt), cytunwyd :-
(a)
Cymeradwyo’r penodiadau a argymhellwyd a ddangoswyd yn Rhestr
1
(b)
Cymeradwyo’r cyrff yn Rhestr
2 fel rhai â chynrychiolwyr o’r Cyngor ac eithrio
Awdurdodau Lleol Di-Niwcliar, a oedd
yn destun ystyriaeth bellach.
(c)
Penodi’r Cynghorwyr perthnasol i’r cyrff a gymeradwywyd
gan y Cabinet o Restr 2.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans (yr Arweinydd) adroddiad
yn cynnig enwebiadau Aelodau i gynrychioli Cyngor Sir Ddinbych ar nifer o gyrff
allanol. Roedd penderfyniad yn ofynnol gan y Cabinet ynghylch pa gyrff allanol
y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn enwebu Aelodau i gynrychioli’r Cyngor
arnynt.
Dywedodd yr Arweinydd fod adolygiad wedi digwydd ym mis Mai
2012 a bod rhestr o’r holl sefydliadau allanol â chynrychiolwyr o Gyngor Sir
Ddinbych wedi’i llunio.
Ymgynghorwyd â’r
Arweinydd, yr Uwch Dîm Arwain a Grwpiau Gwleidyddol ynghylch y sefydliadau
allanol a’r enwebiadau arfaethedig.
Bu’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig yn egluro’r 3 gwahanol restr a roddwyd
i’r Cabinet, fel a ganlyn:-
Ø
Rhestr 1 – Sefydliadau yr ystyriwyd ei bod yn
gorfforaethol fanteisiol i Gyngor Sir Ddinbych gael cynrychiolydd enwebedig
arnynt. Cafwyd adborth gan Arweinwyr Grŵp a oedd yn credu bod y
sefydliadau hyn yn dal yn berthnasol ac enwebwyd y cynrychiolwyr fel yr oeddent
ar y rhestr.
Ø
Rhestr 2 – Roedd yn cynnwys sefydliadau yr oedd
gofyn i’r Cabinet benderfynu a fyddent yn aros ar y rhestr. Cytunwyd y byddai’r
sefydliadau’n aros ar y rhestr ac eithrio Awdurdodau Lleol Di-niwclear yr oedd
gofyn eu trafod ymhellach.
Ø
Rhestr 3 – Nid oedd gofyn enwebu aelodau i’r
sefydliadau a enwyd ar Restr 3, ond pe byddai gan aelod ddiddordeb personol yn
y sefydliad, gallai fynychu’n bersonol. Roedd nifer o’r sefydliadau ar y rhestr
yn anweithredol erbyn hyn.
Ø
Cynigiodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democratig gyflwyno adroddiad ar Gyrff Allanol i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
PENDERFYNWYD ar ôl i’r
Cabinet ystyried Rhestr 1 (cyrff allanol yr ystyrir ei bod yn hanfodol neu’n
gorfforaethol fanteisiol cynrychioli Sir Ddinbych arnynt) a Rhestr 2
(sefydliadau eraill y gellid penodi cynrychiolwyr y Cyngor iddynt), cytuno:-
(a)
I
gymeradwyo’r penodiadau a argymhellwyd a ddangosir yn Rhestr 1
(b)
I
gymeradwyo’r sefydliadau yn Rhestr 2 fel rhai sydd â chynrychiolaeth y Cyngor
ac eithrio Awdurdodau Lleol Di-niwclear a fyddai’n destun ystyriaeth
bellach.
(c)
I
benodi’r Cynghorwyr perthnasol i’r sefydliadau a gymeradwywyd gan y Cabinet o
Restr 2.