Mater - cyfarfodydd
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cyfarfod: 08/11/2012 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 4)
4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 145 KB
(i)
Cael cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2012 (copi ynghlwm).
(ii)
Cael cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2012 (copi ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
(i) Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 27ain Medi
2012.
Materion yn codi:-
5. Adolygiad o Addysg Uwch yng
Ngogledd-ddwyrain Cymru – yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd H O
Williams, bod y Times University Guide wedi canfod
lefel isel o foddhad myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndwr, roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid wedi cysylltu â Phrifysgol Glyndwr i ofyn am
esboniad. Esboniodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd bod ymateb wedi ei dderbyn
a dosbarthwyd copi yn y cyfarfod. Esboniodd bod penderfyniad y Pwyllgor Craffu,
a gynhaliwyd ar 27ain Medi 2012, wedi ei anfon ymlaen at Gadeirydd y Panel
Adolygu Annibynnol. Hysbyswyd y Pwyllgor y gellid cyflwyno adroddiad diweddaru
pellach os gofynnir am hynny gan yr Aelodau.
6. Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Butterfield mewn
perthynas ag effaith y Comisiynwyr Heddlu newydd ar Blismona mewn cymunedau
lleol, gyda chyfeiriad arbennig at y gwrthdrawiad posibl rhwng rolau’r Heddlu a
Chomisiynydd yr Heddlu, cytunodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ofyn am
esboniad mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd. Cyfeiriodd at y diweddariad ar
faterion yr Heddlu a ddarparwyd gan Reolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol,
a gynhwyswyd fel Atodiad 4 i eitem rhif 9 ar y rhaglen.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn
y Cofnodion a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 11eg Hydref,
2012.
PENDERFYNWYD – derbyn a chymeradwyo’r
Cofnodion fel cofnod cywir.