Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR RENEWAL OF A HACKNEY CARRIAGE VEHICLE LICENCE
Cyfarfod: 04/03/2025 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED CERBYD HACNI
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (6/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (6/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (6/4)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (6/5)
- Restricted enclosure 7 , View reasons restricted (6/6)
- Webcast for CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED CERBYD HACNI
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod y
cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Cofnodion:
(i)
cais a dderbyniwyd i adnewyddu Trwydded Cerbyd
Hacni;
(ii)
y ffaith bod y cerbyd wedi’i drwyddedu
fel Cerbyd Hacni ers ei gofrestru am y tro cyntaf yn 2008 a bod y drwydded
wedi’i hadnewyddu bob blwyddyn ers hynny, ac y byddai’r drwydded gyfredol yn
dod i ben ar 31 Mawrth 2025 pan fyddai’r cerbyd yn 16 o flynyddoedd oed;
(iii)
y ffaith na fedrau swyddogion
gymeradwyo’r cais gan nad oedd y cerbyd mwyach yn cydymffurfio â pholisi
presennol y Cyngor oherwydd y cyfyngiad ar oedran cerbydau y gellir eu
hadnewyddu (hyd at 12 o flynyddoedd oed yn unig) a bod y cyfnod gras neu’r
‘hawliau taid’ wedi dod i ben ar 30 Mehefin 2024;
(iv)
gwybodaeth gefndirol a dogfennau
cysylltiedig a ddarparwyd, gan gynnwys datganiad ategol yr Ymgeisydd ynghyd â
chofnodion cynnal a chadw/cydymffurfiaeth y cerbyd, geirda gan y garej a phrawf
allyriadau; a
(v)
y ffaith y gwahoddwyd yr Ymgeisydd i’r cyfarfod i
siarad o blaid y cais i adnewyddu’r drwydded.
Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol er mwyn siarad o blaid ei gais.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi (Trwyddedu) yr adroddiad a gofynnwyd i’r Pwyllgor Trwyddedu
ystyried a fyddai’n briodol gwyro o bolisi’r Cyngor ynghylch oedrannau cerbydau
a chymeradwyo’r cais i adnewyddu’r drwydded.
Dywedodd
yr Ymgeisydd nad oedd ganddo ddim i’w ychwanegu at yr hyn a nodwyd yn yr
adroddiad (a oedd yn cynnwys ei ddatganiadau ategol a dogfennau ar gyfer y
cerbyd).
Atebodd
yr Ymgeisydd gwestiynau ynglŷn â pham nad oedd eisoes wedi cymryd camau i
sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi ynghylch oedran cerbydau, gan grybwyll ei
oedran a’i amgylchiadau personol a sôn na fyddai’n gweddu iddo weithio i
weithredwr tacsi arall. Eglurodd hefyd
fod cofnodion trin a chynnal a chadw’r cerbyd yn anghyflawn gan mai ef a
gyflawnodd lawer o’r gwaith hwnnw ei hun.
Gofynnwyd cwestiwn hefyd i’r Swyddog Gorfodi, a gytunodd â datganiad
blaenorol yr Ymgeisydd fod yno brinder tacsis mewn safleoedd pwrpasol, yn
enwedig yn y Rhyl, a llai o dacsis yn cludo teithwyr. Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod llawer o
weithredwyr yn canolbwyntio ar waith contract gydag ysgolion ac nad oedd ond
ychydig o weithredwyr a wnâi waith mewn safleoedd tacsis, a oedd yn farchnad
arbenigol.
Yn ei
ddatganiad i gloi, soniodd yr Ymgeisydd y trwyddedwyd cerbyd arall yn agos i’r
un oedran a’i gerbyd ef a bod yno gerbydau trwyddedig hŷn na hynny mewn
ardaloedd eraill. Soniodd hefyd am ei
ymddygiad da ers blynyddoedd lawer fel gyrrwr trwyddedig, a gofynnodd i’r
Pwyllgor fod yn bleidiol i’w gais.
Tynnodd Aelodau sylw at y ffaith bod y cerbyd y cyfeiriai’r Ymgeisydd
ato’n un o fath arbennig nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn, a derbyniwyd
fod awdurdodau lleol eraill yn arfer gwahanol bolisïau. Ychwanegodd y Swyddog Gorfodi bod y Cyngor yn
gweithredu polisi pendant a orfodid yn llym, a bod hynny’n effeithiol wrth
annog cerbydau newydd a oedd yn addas ar gyfer y ffordd ac yn ddiogel i’w
defnyddio. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd
wedi cael yr holl wybodaeth am ofynion y polisi.
Wedi torri’r
cyfarfod i’r Pwyllgor ystyried y cais am adnewyddiad –
PENDERFYNWYD gwrthod y cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Dyma oedd
rhesymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd y Pwyllgor wedi pwyso a mesur yn ofalus yr hyn a gyflwynodd yr Ymgeisydd ynghyd â’r wybodaeth a ddarparodd y swyddogion cyn y cyfarfod, a diolchodd yr aelodau i bawb am eu cymorth. Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, tynnodd y Pwyllgor sylw at wasanaeth clodwiw’r Ymgeisydd am fwy na deg ar hugain o ... view the full Cofnodion text for item 6