Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2025
Cyfarfod: 04/03/2025 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2025 PDF 396 KB
Ystyried rhaglen
waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo’r rhaglen waith.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a
Datblygu Economaidd raglen waith y Pwyllgor i’w hystyried.
Roedd y rhaglen waith yn nodi blaenoriaethau’r
Adain Drwyddedu ac ni fu unrhyw newid ers i’r Pwyllgor gymeradwyo’r rhaglen yn
y cyfarfod diwethaf.
Atebodd y Rheolwr gwestiynau a chadarnhaodd bod y
Swyddog Arweiniol – Trwyddedu wedi ymateb i’r cais a rannwyd â’r aelodau i
adolygu’r cyfyngiad oedran ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a oedd
wedi’i gynnwys yn y rhaglen waith ym mis Mehefin. Eglurwyd eto y gellid cyfeirio unrhyw
geisiadau a dderbynnid nad oeddent yn cydymffurfio â’r polisi presennol i’r
Pwyllgor i benderfynu a fyddai’n briodol gwyro o’r polisi. Cadarnhawyd strwythur rheoli’r Adain
Drwyddedu hefyd. Wrth ateb cwestiynau
ynglŷn â phwerau a chyfrifoldebau’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â’i gylch
gwaith, rhoddwyd sicrwydd nad oedd dim wedi newid o ran hynny ac nad oedd dim
o’r pwerau wedi’u gwanhau neu’u dirprwyo i swyddogion.
PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo’r rhaglen waith.