Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

AWARD OF THE REGIONAL NORTH WALES DOMICILIARY CARE AGREEMENT

Cyfarfod: 18/02/2025 - Cabinet (Eitem 12)

12 DYFARNU CYTUNDEB GOFAL CARTREF RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru fel mae’r adroddiad yn ei nodi ar ôl llwyddo i gwblhau proses Gwahoddiad Agored i Dendro er mwyn darparu Gofal Cartref i Oedolion ac i Blant a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn cymeradwyo derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan 97 o gyflenwyr a gwrthod 3 o’r cyflenwyd am y rhesymau a nodwyd yn yr Adroddiad Argymell Dyfarnu Contractau (Atodiad 1 i’r adroddiad), ac

 

(b)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad cyfrinachol ar y cyd gyda’r Cynghorydd Diane King yn gofyn cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru fel y nodir yn yr adroddiad ar ôl cwblhau Gwahoddiad Agored i Dendro ar gyfer darparu Gofal Cartref i Oedolion a Phlant/Pobl ifanc.

 

Roedd y Cabinet wedi rhoi ei gymeradwyaeth i’r Cyngor weithredu fel y Comisiynydd Arweiniol ar ran y chwe phartner awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd ar gyfer ‘Gwahoddiad i Dendro ar gyfer Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru’ ym mis Mehefin 2023. Roedd manylion y gwahanol lotiau a’r tendrau a dderbyniwyd ar gyfer pob lot wedi’u darparu ynghyd â gwerthusiad o bob tendr a gyflwynwyd ac argymhelliad ynghylch dyfarnu’r contract yn erbyn pob Lot i’r Cabinet i’w hystyried i’w cymeradwyo.

 

Ystyriodd a thrafododd y Cabinet yr adroddiad ymhellach gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a'r Rheolwr Busnes Rhanbarthol.   Esboniodd swyddogion ymhellach y broses werthuso a'r rhesymu y tu ôl i'r tendrau a wrthodwyd, cadarnhau bod tua 20% o'r 97 o dendrau a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn ymwneud â chwmnïau newydd, a darparu sicrwydd o ran darpariaeth Gymraeg a defnyddio'r fframwaith Mwy Na Geiriau. Daeth y cytundeb â'r gwahanol fathau o ofal cartref ynghyd o dan un cytundeb fframwaith gan roi cyfle i weithio gydag ystod lawer ehangach a datblygu dull cyson ar draws y rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn cymeradwyo derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan 97 o gyflenwyr a gwrthod 3 o’r cyflenwyd am y rhesymau a nodwyd yn yr Adroddiad Argymell Dyfarnu Contractau (Atodiad 1 i’r adroddiad), ac

 

(b)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm.