Mater - cyfarfodydd
COUNCIL BUDGET 2025/26
Cyfarfod: 18/02/2025 - Cabinet (Eitem 9)
9 CYLLIDEB Y CYNGOR 2025/26 PDF 265 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i’r cynigion
er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26 cyn cyfarfod y Cyngor ar 20
Chwefror 2025.
Dogfennau ychwanegol:
- BUDGET REPORT - Appendix 1 MTFP FV, Eitem 9
PDF 20 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 2 Provisional Settlement FV, Eitem 9
PDF 142 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 3 Pressures FV, Eitem 9
PDF 158 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 4 Savings FV, Eitem 9
PDF 144 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 5 CT, Eitem 9
PDF 59 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 6 Reserves FV, Eitem 9
PDF 137 KB
- BUDGET REPORT - Appendix 7 C Impact Assessment 2024 to 2026 savings proposals, Eitem 9
PDF 484 KB
- Webcast for CYLLIDEB Y CYNGOR 2025/26
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cefnogi’r cynigion a
amlinellwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28
(Atodiad 1 i’r adroddiad), y manylwyd yn eu cylch yn Adran 4 o’r adroddiad, er
mwyn gosod cyllideb ar gyfer 2025/26,
(b) yn cymeradwyo’r cynnydd
cyfartalog o 5.29% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag
0.71% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd
Cymru; roedd hynny’n hafal i gynnydd cyffredinol arfaethedig o 6.00% (paragraff
4.5 o’r adroddiad),
(c) yn dirprwyo awdurdod i’r
Pennaeth Cyllid ac Archwilio, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid,
addasu’r modd y defnyddid arian wrth gefn oedd wedi’i gynnwys yng nghynigion y
gyllideb o hyd at £500,000 pe byddai gwahaniaeth rhwng ffigyrau’r setliad
drafft a’r setliad terfynol, er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol,
(ch) o blaid y strategaeth i
ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodwyd ym mharagraff 4.6 o’r adroddiad, ac
(d) yn cadarnhau ei fod wedi
darllen yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodwyd yn Adran 7 o’r adroddiad, ei
ddeall a’i ystyried.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad gan nodi effaith
Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2025/26 a
chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26, gan gynnwys lefel Treth y
Cyngor.
Ailadroddwyd yr heriau ariannol sy'n wynebu'r cyngor, ynghyd â'r holl
awdurdodau lleol eraill, a chyfeiriwyd at y broses gosod cyllideb barhaus. Diolchodd y Cynghorydd Ellis i aelodau a
swyddogion am eu cyfraniadau i'r broses honno ac roedd yn falch o fod mewn
sefyllfa i gyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cabinet.
Arweiniodd y Cynghorydd Ellis a'r Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r Cabinet
trwy'r adroddiad.
Adroddwyd am oblygiadau'r setliad dros dro yn y cyfarfod diwethaf ac
fe'u hailadroddwyd yng nghyd-destun cynigion y gyllideb ar gyfer 2025/26. Roedd y cynnydd yn y setliad yn uwch na'r
rhagdybiaeth gynllunio a adroddwyd yn flaenorol yn y cynllun a'r strategaeth
ariannol tymor canolig. Er ei fod yn
gadarnhaol ac yn cael ei groesawu, nid oedd yn datrys yr heriau ariannol wrth
osod cyllideb gytbwys yn 2025/26, a fyddai’n dal yn gofyn am gyfuniad o
arbedion a chynnydd yn Nhreth y Cyngor.
Roedd y cynigion cyllidebol wedi'u dangos yn y cynllun ariannol tymor
canolig (Atodiad 1 i'r adroddiad) a oedd hefyd yn cynnwys pwysau'r gyllideb
(£23.854m) a chynigion cynilo (£4.170m).
Cynigiwyd a chymeradwywyd codiad Treth y Cyngor o 5.29% ynghyd ag 0.71% ychwanegol ar gyfer y
cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n cyfateb i
godiad cyffredinol o 6.00% i gynhyrchu £5.257 miliwn o arian ychwanegol yn
2025/26. Amlygwyd y defnydd arfaethedig
o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd hefyd o fewn gosod y gyllideb. Nodwyd sefyllfa ysgolion gyda chyfanswm
cynnydd cyllid o 5.91% heb unrhyw ostyngiadau i gyllidebau. Yna cyfeiriwyd at ragamcanion ariannol a
rhagdybiaethau cyllido ar gyfer y blynyddoedd i ddod a oedd yn parhau i fod yn
heriol. Wrth gloi, talwyd teyrnged i'r
gwaith rhagorol a wnaed i alluogi cyflwyno cyllideb gytbwys i'w chymeradwyo.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid ac
Archwilio am y cyflwyniad cynhwysfawr i adroddiad cymhleth a diolchodd hefyd
i'r aelodau am eu cyfraniadau i'r broses gosod cyllideb a swyddogion am y
gwaith caled a wnaed. Adleisiodd y
Cabinet y teimladau hynny a chroesawodd y setliad gwell na'r disgwyl a olygai
lai o ffocws ar leihau gwasanaethau fel rhan o'r cynigion cynilo o ystyried nad
oedd y bwlch cyllido mor ddifrifol â'r rhagdybiaethau.
Trafododd y Cabinet elfennau pellach o'r gyllideb fel a ganlyn -
·
Cydnabuwyd yr heriau i ysgolion a nodwyd
sefyllfa’r ysgolion. O ystyried
ysgolion oedd y rhan fwyaf o gyfanswm y gyllideb ar 33% roedd yn anodd
amddiffyn cyllideb yr ysgolion yn ei chyfanrwydd. Cynigiwyd y byddai ysgolion yn derbyn
cyfanswm cynnydd mewn cyllid o 5.91% yn 2025/26 a oedd yn cynnwys yr holl
godiadau chwyddiant (gan gynnwys cyflog ac yswiriant gwladol cyflogwyr). Gofynnwyd i ysgolion baratoi ar gyfer gostyngiad
(ar ôl y cynnydd chwyddiant) rhwng 3% a 5%.
Fodd bynnag, o ystyried y setliad gwell na'r disgwyl, nid y cynnig
cyfredol oedd cynnwys y gostyngiad hwnnw yng nghynigion y gyllideb
·
Amlygwyd ymhellach bwysigrwydd yr agenda
drawsnewid, a byddai'r setliad cynyddol uwchlaw rhagdybiaethau yn caniatáu
amser ychwanegol i symud ymlaen a chanolbwyntio ar y prosiectau trawsnewidiol
hynny i sicrhau bod cynaliadwyedd ar gyfer darparu gwasanaethau a chyllid yn y
dyfodol hefyd wedi'i neilltuo at y diben hwnnw
· Cafwyd peth trafodaeth ar y broses gosod cyllideb a'r ffordd yr oedd wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd rheidrwydd o ystyried y sefyllfa ariannol sy'n wynebu'r awdurdod, ac amlygwyd yr angen i alinio darpariaeth gwasanaeth â chost darparu gwasanaeth; roedd yn broses o wella'n barhaus a pharhaodd i ... view the full Cofnodion text for item 9