Mater - cyfarfodydd
PUBLIC SERVICES OMBUDSMAN FOR WALES ANNUAL LETTER 2023/24
Cyfarfod: 18/02/2025 - Cabinet (Eitem 6.)
6. LLYTHYR BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2023/24 PDF 213 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno Llythyr Blynyddol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’w ystyried ac yn gofyn i’r Cabinet
gytuno i adrodd yn ôl wrth yr Ombwdsmon ynghlwm ag unrhyw ystyriaethau a chamau
arfaethedig o ganlyniad i’r Llythyr Blynyddol.
Dogfennau ychwanegol:
- PSOW REPORT - Appendix 1 PSOW Annual Letter 23-24, Eitem 6.
PDF 425 KB
- PSOW REPORT - Appendix 2 Your Voice Q4 2023-24_, Eitem 6.
PDF 669 KB
- Webcast for LLYTHYR BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2023/24
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) wedi ystyried y data yn y llythyr, ynghyd
â data’r Cyngor, i ddeall mwy am berfformiad ar gwynion, gan gynnwys unrhyw
batrymau neu dueddiadau a chydymffurfiaeth y sefydliad ag argymhellion yr
Ombwdsmon, ac
(b) yn cytuno y dylai unrhyw ystyriaethau a
chamau a gynigiwyd o ganlyniad i Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru gael eu hadrodd yn ôl i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
cyn gynted â phosib.