Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET

Cyfarfod: 24/09/2024 - Cabinet (Eitem 7)

7 RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 318 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·       Ymateb drafft Rheolwyr i Asesiad Perfformiad Panel - Tachwedd

·       Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru - Ionawr

 

Fe nodwyd hefyd y dylai’r eitem ar Drefniadau Llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a oedd wedi’i threfnu at fis Hydref gael ei gohirio wrth ddisgwyl am fanylion yr adroddiad gan Gyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol i’w rannu â’r holl Awdurdodau Lleol yng ngogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am.